Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Brenhinoedd 20

20
Heseceia’n cael ei daro’n wael, a bron yn marw
(2 Cronicl 32:24-26; Eseia 38:1-8,21-22)
1Tua’r adeg yna roedd Heseceia’n sâl. Roedd yn ddifrifol wael, a bu bron iddo farw. Daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud wrtho, “Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: rho drefn ar dy bethau, achos ti’n mynd i farw; fyddi di ddim yn gwella.” 2Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, 3“O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crio.
4Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma’r ARGLWYDD yn siarad ag e. 5“Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i’n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi’n mynd i deml yr ARGLWYDD. 6Dw i’n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i’n mynd i dy achub di a’r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i’n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’” 7Yna dyma Eseia’n dweud, “Ewch i nôl bar o ffigys wedi’u gwasgu a’i roi ar y chwydd sydd wedi casglu, a bydd yn gwella.” 8Gofynnodd Heseceia i Eseia, “Pa arwydd ga i y bydd yr ARGLWYDD yn fy ngwella ac y bydda i’n mynd i fyny i’w deml y diwrnod ar ôl fory?” 9Ac roedd Eseia wedi ateb, “Dyma’r arwydd mae’r ARGLWYDD yn ei roi i ti i ddangos ei fod am wneud beth mae’n ddweud: ‘Wyt ti eisiau i’r cysgod ar y deial haul symud ymlaen ddeg gris, neu yn ôl ddeg gris?’” 10A dyma Heseceia’n ateb, “Mae’n hawdd i gysgod symud ymlaen ddeg gris. Ond sut all e fynd yn ôl ddeg gris?” 11Yna dyma’r proffwyd Eseia’n gweddïo, a dyma’r ARGLWYDD yn gwneud i’r cysgod symud yn ôl ddeg gris ar ddeial haul Ahas.
Camgymeriad Heseceia
(Eseia 39:1-8; 2 Cronicl 32:32-33)
12Tua’r un pryd anfonodd Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, negeswyr gyda llythyrau ac anrheg i Heseceia – roedd wedi clywed ei fod yn sâl. 13Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw – yr arian, yr aur, y perlysiau, a’r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a’i deyrnas gyfan iddyn nhw!
14Yna dyma’r proffwyd Eseia yn mynd at y Brenin Heseceia, a gofyn iddo: “Beth ddwedodd y dynion yna wrthot ti? O ble daethon nhw?” Atebodd Heseceia. “Daethon nhw ata i o wlad bell iawn – o Babilon.” 15Gofynnodd Eseia wedyn, “Beth welon nhw yn dy balas di?” A dyma Heseceia’n ateb, “Popeth sydd gen i. Does dim byd yn fy stordai i gyd na welon nhw.” 16A dyma Eseia’n dweud wrth Heseceia, “Gwranda ar neges yr ARGLWYDD: 17‘Edrych! Mae’r amser yn dod pan fydd popeth sydd yn dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai’r ARGLWYDD. 18‘Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.’” 19A dyma Heseceia yn dweud wrth Eseia, “Mae’r neges rwyt ti wedi’i rhannu gan yr ARGLWYDD yn dda.” Meddyliodd, “Be wedyn? O leia bydd heddwch a diogelwch tra dw i’n fyw.”
20Mae gweddill hanes Heseceia – ei lwyddiant milwrol a’r ffaith iddo adeiladu’r gronfa ddŵr a’r sianel i gario dŵr i’r ddinas – i’w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 21Pan fu Heseceia farw, dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Dewis Presennol:

2 Brenhinoedd 20: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda