Dych chi’n wahanol i bobl sydd ddim yn credu – felly peidiwch ymuno â nhw. Ydy cyfiawnder a drygioni’n gallu bod yn bartneriaid? Neu olau a thywyllwch? Ydy’r Meseia a’r diafol yn creu harmoni? Beth sydd gan rywun sy’n credu a rhywun sydd ddim yn credu yn gyffredin? Ydy’n iawn rhoi eilun-dduwiau yn nheml Duw? Na! A dŷn ni gyda’n gilydd yn deml i’r Duw byw. Fel mae Duw ei hun wedi dweud: “Bydda i’n byw gyda nhw ac yn symud yn eu plith nhw; fi fydd eu Duw nhw a nhw fydd fy mhobl i.” Felly mae’r Arglwydd yn dweud, “Dewch allan o’u canol nhw a bod yn wahanol.” “Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan, a chewch eich derbyn gen i.”
Darllen 2 Corinthiaid 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Corinthiaid 6:14-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos