1 Cronicl 11
11
Dafydd yn frenin ar Israel gyfan
(2 Samuel 5:1-3)
1Dyma bobl Israel i gyd yn dod at ei gilydd yn Hebron at Dafydd, a dweud wrtho, “Edrych, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd. 2Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel ac yna dod â nhw adre. Mae’r ARGLWYDD dy Dduw wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am#11:2 ofalu am Hebraeg, “bugeilio”. Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”
3Felly pan ddaeth arweinwyr Israel i Hebron at Dafydd, dyma’r brenin yn gwneud cytundeb â nhw o flaen yr ARGLWYDD. A dyma nhw’n ei eneinio’n frenin ar Israel gyfan, fel roedd Duw wedi addo drwy Samuel.
Dafydd yn concro Jerwsalem
4Aeth Dafydd a byddin Israel i ymosod ar Jerwsalem, sef Jebws. (Y Jebwsiaid oedd wedi byw yn yr ardal honno erioed.) 5A dyma bobl Jebws yn dweud wrth Dafydd, “Ddoi di byth i mewn yma!” Ond llwyddodd Dafydd i ennill caer Seion (sef Dinas Dafydd). 6Roedd Dafydd wedi dweud, “Bydd pwy bynnag sy’n arwain yr ymosodiad ar y Jebwsiaid yn cael ei wneud yn bennaeth y fyddin!” Joab fab Serwia wnaeth arwain yr ymosodiad, a daeth yn bennaeth y fyddin. 7Aeth Dafydd i fyw i’r gaer, a dyna pam mae’n cael ei galw yn Ddinas Dafydd. 8Dyma fe’n adeiladu o’i chwmpas, o’r terasau at y waliau allanol. A dyma Joab yn ailadeiladu gweddill y ddinas. 9Roedd Dafydd yn mynd yn fwy a mwy pwerus, achos roedd yr ARGLWYDD hollbwerus gydag e.
Milwyr dewr Dafydd
(2 Samuel 23:8-39)
10Dyma arweinwyr byddin Dafydd wnaeth helpu i sefydlu ei deyrnas fel brenin Israel gyfan, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo. 11Dyma restr o’i filwyr dewr:
Iashofam yr Hachmoniad oedd pennaeth y swyddogion. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda’i waywffon mewn un frwydr.
12Yna nesa ato fe roedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach, un o’r ‘Tri Dewr’. 13Roedd e gyda Dafydd yn herio’r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Wrth ymyl cae oedd yn llawn o haidd, roedd y fyddin wedi ffoi oddi wrth y Philistiaid. 14Ond yna dyma nhw’n sefyll eu tir yng nghanol y cae hwnnw. Dyma nhw’n ei amddiffyn ac yn taro’r Philistiaid, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddyn nhw.
15Dyma dri o’r tri deg arweinydd yn mynd i lawr at Dafydd at y graig sydd wrth ymyl Ogof Adwlam. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm. 16Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif garsiwn milwrol y Philistiaid yn Bethlehem. 17Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe’n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o’r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” 18Felly dyma’r ‘Tri Dewr’ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o’r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw’n dod â’r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe’n ei dywallt yn offrwm i’r ARGLWYDD, 19a dweud, “O Dduw, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro’u bywydau i’w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed am fod y dynion wedi mentro’u bywydau i’w nôl. Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‘Tri Dewr’.
20Abishai, brawd Joab, oedd pennaeth y ‘Tri dewr’. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda’i waywffon un tro. Roedd yn enwog fel y Tri. 21A dweud y gwir, roedd e’n fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e’i hun ddim yn un o’r ‘Tri’.
22Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël, yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira. 23Roedd wedi lladd cawr o ddyn o’r Aifft, saith troedfedd a hanner o daldra. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon fawr fel carfan gwehydd yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe’n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a’i ladd gyda hi. 24Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‘Tri Dewr’. 25Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o’r ‘Tri’. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
26Dyma restr o’r milwyr dewr eraill: Asahel, brawd Joab, Elchanan fab Dodo o Bethlehem, 27Shamoth o Haror, Chelets o Pelon, 28Ira fab Iccesh o Tecoa, Abieser o Anathoth, 29Sibechai o Chwsha, Ilai o deulu Achoach, 30Maharai o Netoffa, Cheled fab Baana o Netoffa, 31Ithai fab Ribai o Gibea Benjamin, Benaia o Pirathon, 32Chwrai o Wadi Gaash, Abiel o Arba, 33Asmafeth o Bachwrîm, Eliachba o Shaalbon, 34meibion Hashem o Gison, Jonathan fab Sage o Harar, 35Achîam fab Sachar o Harar, Eliffal fab Wr 36Cheffer o Mecherath, Achïa o Pelon 37Chetsro o Carmel, Naärai fab Esbai, 38Joel brawd Nathan, Mifchar fab Hagri, 39Selec o Ammon, Nachrai o Beroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia), 40Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41Wreia yr Hethiad, Safad fab Achlai 42Adina fab Shisa, arweinydd llwyth Reuben, a’r tri deg o filwyr oedd gydag e, 43Chanan fab Maacha, Ioshaffat o Mithna, 44Wsïa o Ashtaroth, Shama a Jeiel, meibion Chotham o Aroer, 45Iediael fab Shimri, a Iocha ei frawd, o Tis, 46Eliel y Machafiad, Ierifai a Ioshafeia, meibion Elnaäm, ac Ithma o Moab, 47Eliel, Obed, a Iaäsiel o Soba.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 11: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023