Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Cronicl 10

10
Saul yn lladd ei hun
(1 Samuel 31:1-13)
1Dyma’r Philistiaid yn dod i ryfela yn erbyn Israel. Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a syrthiodd llawer ohonyn nhw’n farw ar fynydd Gilboa. 2Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a’i feibion, a dyma nhw’n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. 3Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma’r bwasaethwyr yn ei daro, a’i anafu’n ddrwg.
4Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario’i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i’r paganiaid yma ddod a’m poenydio i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno. 5Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw. 6Felly cafodd Saul a tri o’i feibion, a’i deulu i gyd eu lladd gyda’i gilydd.
7Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i’r dyffryn yn clywed fod y milwyr wedi ffoi, a bod Saul a’i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw’n gadael eu trefi a ffoi. A dyma’r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.
8Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma’r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw’n dod o hyd i Saul a’i feibion yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. 9Dyma nhw’n cymryd ei arfau oddi arno, torri ei ben i ffwrdd, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi’r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. 10Wedyn dyma nhw’n rhoi arfau Saul yn nheml eu duwiau, a hongian ei ben yn nheml y duw Dagon.
11Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead am bopeth roedd y Philistiaid wedi’i wneud i Saul, 12dyma’r milwyr yn mynd allan i nôl cyrff Saul a’i feibion a mynd â nhw i Jabesh. Dyma nhw’n cymryd yr esgyrn a’u claddu o dan y goeden dderwen yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.
13Buodd Saul farw am ei fod wedi bod yn anffyddlon ac anufudd i’r ARGLWYDD. Roedd e hyd yn oed wedi troi at ddewiniaeth, 14yn lle gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD. Felly dyma’r ARGLWYDD yn ei ladd ac yn rhoi ei frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse.

Dewis Presennol:

1 Cronicl 10: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda