Y dydd hwnw, yn yr hwyr, efe á ddywedodd wrthynt, Awn drosodd i’r ochr draw. A hwy, gàn adael y bobl, ond ac efe gyda hwynt yn y llong, á hwyliasant gyda llongigion ereill. Yna y cododd tymhestl fawr o wynt, yr hon á daflodd y tònau i’r llong, yr hon oedd erbyn hyn yn llawn. Ac yr oedd Iesu yn yr ysdarn, yn cysgu àr obènydd, a hwy á’i deffroisant ef, gàn ddywedyd, Rabbi, á oes arnat ddim gofal rhag darfod am danom ni? Ac efe á gyfododd, ac á geryddodd y gwynt, gàn ddywedyd wrth y môr, Gosteg! dystawa! Yn y fàn peidiodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych mòr ofnus? Pa fodd nad oes gènych ffydd? A hwy á ddychrynasant yn ddirfawr, ac á ddywedasant y naill wrth y llall, Pwy yw hwn, y mae hyd yn nod y gwynt a’r môr yn ufyddâu iddo?
Darllen Ioan Marc 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan Marc 4:35-41
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos