Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthew Lefi 22

22
1-14Iesu yn parâu i ymadroddi wrthynt mewn damegion, á ddywedodd, Y mae Gweinyddiaeth y Nefoedd yn debyg i ymddygiad brenin, yr hwn, wedi gwneuthur priodaswledd iddei fab, á ddanfonodd ei weision i alw y rhai à wahoddasid; ond ni fỳnent hwy ddyfod. Yna efe á ddanfonodd weision ereill, gàn ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai à wahoddwyd, Mi á barotöais fy ngwledd; fy ychain a’m pasgedigion á laddwyd, a phob peth sy barod; deuwch i’r briodas. Ond hwy á droisant ymaith yn ddiystyrllyd, un iddei dyddyn, arall at ei fasgnach. A’r rhelyw á ddaliasant ei weision ef, á’u hanmharchasant, ac á’u lladdasant. Pan glybu y brenin hyn, wedi llidio, efe á ddanfonodd ei filwyr, á ddinystriodd y lleiddiaid hyny, ac á losgodd eu dinas hwynt. Yna efe á ddywedodd wrth ei weision, Y mae y #22:1 Gwledd; an entertainment.west yn barod, ond y rhai à wahoddasid nid oeddynt deilwng; ewch, gàn hyny, i’r prif‐ffyrdd, a chynnifer ag á gaffoch, gwahoddwch i’r briodas. Yn ganlynol hwy á aethant i’r prif‐ffyrdd, ac á gynnullasant gynnifer ag á gawsant, da a drwg, fel y llanwyd y neuadd â gwesteion. Pan ddaeth y brenin i fewn i weled y gwesteion, efe á ganfu yno ddyn heb wisg priodas am dano, ac á ddywedodd wrtho, Gyfaill, pa fodd y daethost ti yma heb wisg priodas? Ac yntau á aeth yn fud. Yna y dywedodd y brenin wrth y gweinyddion, Rhwymwch ef draed a dwylaw, a theflwch ef i dywyllwch, lle y bydd wylofain a rhincian dannedd; canys llawer sy gwedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.
DOSBARTH XII.
Nodwedd y Phariseaid.
15-22Yna y Phariseaid á giliasant, a gwedi ymgynghori pa fodd y dalient ef yn ei eiriau, á ddanfonasant ato rai o’u dysgyblion, a rhai Herodiaid, y rhai, gwedi eu hyfforddi ganddynt, á ddywedasant, Rabbi, nyni á wyddom dy fod yn gywir, ac yn dysgu ffordd Duw yn ffyddlawn, ac anmhleidiol, oblegid nid wyt yn derbyn wynebau dynion. Dywed i ni, gàn hyny, dy farn, Ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Gaisar, ai nid yw? Iesu, yn canfod eu dichell, á ddywedodd, Ragrithwyr, paham y mỳnech fy rhwydo i? Dangoswch i mi arian y deyrnged. A hwy á estynasant iddo geiniog. Yntau á ofynodd iddynt, Delw ac argraff pwy yw hwn? Hwy á atebasant, eiddo Caisar. Yntau á atebodd, Rhoddwch, gán hyny, i Gaisar yr hyn sydd eiddo Caisar, ac i Dduw yr hyn sydd eiddo Duw. A thàn ryfeddu wrth ei atebiad, hwy á’i gadawsant ef, ac á aethant ymaith.
23-33Yr un dydd daeth Saduwceaid ato, y rhai á ddywedant nad oes bywyd dyfodol, ac á’i cyfarchasant ef fel hyn: Rabbi, dywedodd Moses, os bydd un farw, ac heb blant ganddo, prioded ei frawd ei weddw ef, a chyfoded hiliogaeth i’r trengedig. Ac yr oedd yn byw yn ein plith ni saith o frodyr: yr hynaf á briododd, ac á fu farw heb hiliogaeth, gàn adael ei wraig iddei frawd. Felly hefyd yr ail a’r trydydd, a felly hyd y seithfed. Yn ddiweddaf oll, bu farw y ddynes hefyd. Yn awr, yn yr adgyfodiad, gwraig i ba un o’r saith fydd hi; canys hwy oll á’i priodasant hi? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, heb wybod yr ysgrythyrau, na gallu Duw; oblegid yn y cyflwr hwnw, nid ydynt nac yn priodi, nac yn rhoddi mewn priodas; y maent yn gyffelyb i angylion Duw. Eithr am adfywâad y meirw, oni ddarllenasoch chwi yr hyn à fynegodd Duw i chwi, gàn ddywedyd, “Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.” Nid yw Duw Dduw y meirw, ond y byw. A’r bobl y rhai á glywsant hyn, á sỳnasant wrth ei athrawiaeth ef.
34-40Yn y cyfamser, y Phariseaid wedi clywed ddarfod iddo ostegu y Saduwceaid, á ymgasglasant o’i amgylch ef. Yna un o honynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, gàn ei brofi ef, á gynygiodd yr holiad hwn, Rabbi, pa un yw y gorchymyn mwyaf yn y gyfraith? Iesu á atebodd, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.” Dyma y gorchymyn cyntaf a’r mwyaf. Yr ail sy gyffelyb iddo, “Ceri dy gymydog fel ti dy hun.” Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a’r proffwydi yn dibynu.
41-46Tra yr oedd y Phariseaid yn ymgynnulledig, Iesu á ofynodd iddynt, gàn ddywedyd, Beth dybygwch chwi am y Messia? Mab i bwy ddylai efe fod? Hwythau á atebasant, Mab i Ddafydd. Yntau á atebodd, Pa fodd, gàn hyny, y mae Dafydd, yn llefaru drwy ysbrydoliaeth, yn ei alw ef ei Arglwydd? “Yr Arglwydd,” medd efe, “á ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd àr fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i ti.” Pe mab Dafydd fyddai y Messia, a alwai Dafydd ef ei Arglwydd? I hyn nis gallasai neb o honynt roddi ateb, ac o’r dydd hwnw ni feiddiodd neb ei holi ef mwyach.

Dewis Presennol:

Matthew Lefi 22: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda