Yn y cyfamser, y Phariseaid wedi clywed ddarfod iddo ostegu y Saduwceaid, á ymgasglasant o’i amgylch ef. Yna un o honynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, gàn ei brofi ef, á gynygiodd yr holiad hwn, Rabbi, pa un yw y gorchymyn mwyaf yn y gyfraith? Iesu á atebodd, “Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.” Dyma y gorchymyn cyntaf a’r mwyaf. Yr ail sy gyffelyb iddo, “Ceri dy gymydog fel ti dy hun.” Ar y ddau orchymyn hyn y mae yr holl gyfraith a’r proffwydi yn dibynu.
Darllen Matthew Lefi 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 22:34-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos