Yr un dydd daeth Saduwceaid ato, y rhai á ddywedant nad oes bywyd dyfodol, ac á’i cyfarchasant ef fel hyn: Rabbi, dywedodd Moses, os bydd un farw, ac heb blant ganddo, prioded ei frawd ei weddw ef, a chyfoded hiliogaeth i’r trengedig. Ac yr oedd yn byw yn ein plith ni saith o frodyr: yr hynaf á briododd, ac á fu farw heb hiliogaeth, gàn adael ei wraig iddei frawd. Felly hefyd yr ail a’r trydydd, a felly hyd y seithfed. Yn ddiweddaf oll, bu farw y ddynes hefyd. Yn awr, yn yr adgyfodiad, gwraig i ba un o’r saith fydd hi; canys hwy oll á’i priodasant hi? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, heb wybod yr ysgrythyrau, na gallu Duw; oblegid yn y cyflwr hwnw, nid ydynt nac yn priodi, nac yn rhoddi mewn priodas; y maent yn gyffelyb i angylion Duw. Eithr am adfywâad y meirw, oni ddarllenasoch chwi yr hyn à fynegodd Duw i chwi, gàn ddywedyd, “Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.” Nid yw Duw Dduw y meirw, ond y byw. A’r bobl y rhai á glywsant hyn, á sỳnasant wrth ei athrawiaeth ef.