Gwedi iddynt ymadael, Iesu á ddywedodd wrth y bobl am Ioän, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch iddei weled? Ai corsen yn cael ei hysgwyd gàn y gwynt? Ond pa beth yr aethoch allan iddei weled? Ai dyn wedi ei ddilladu yn fwythus? Palasau breninoedd y mae y cyfrai yn eu cynniwair. Beth ynte yr aethoch allan iddei weled? Ai proffwyd? Ië, meddaf i chwi, a rhywbeth uwch na phroffwyd; canys hwn yw efe, am yr hwn yr ysgrifenwyd, “Wele, mi á anfonaf fy angel o’th flaen, yr hwn á barotöa dy ffordd.” Yn wir, yr wyf yn dywedyd wrthych, yn mhlith y rhai à aned o wragedd, ni chododd neb mwy nag Ioän y Trochiedydd. Eto y lleiaf yn Nheyrnasiad y Nefoedd sy fwy nag ef. Oddar ymddangosiad cyntaf Ioän y Trochiedydd hyd yn awr, yr ydys yn goresgyn teyrnas y nefoedd, a goresgynwyr sydd yn cymeryd meddiant drwy drais. Canys hyd onid ymddangosodd Iöan, yr holl broffwydi a’r gyfraith oeddynt eich hyfforddwyr: ac os goddefwch ddywedyd wrthych, dyma yr Elias yr hwn oedd i ddyfod. Pwybynag sy ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
Darllen Matthew Lefi 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 11:7-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos