Yn mhellach, efe á ddywedodd wrth yr holl bobl, Os mỳn neb ddyfod dàn fy arweiniad i, ymwrthoded ag ef ei hun, a chymered ei groes beunydd, a dylyned fi. Canys pwybynag á ewyllysio gadw ei einioes, á’i cyll; a phwybynag á gollo ei einioes, èr fy mwyn i, hwnw á’i ceidw hi. Pa lesâad i ddyn fyddai ennill yr holl fyd, a fforffedu neu ddyfetha ei hun? Canys pwybynag y byddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnw y bydd cywilydd gàn Fab y Dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r eiddo y Tad, a’r angylion santaidd. Yr wyf yn gwirio i chwi, bod rhai yn sefyll yma, na phrofant angeu, hyd oni welont Deyrnasiad Duw.
Darllen Luwc 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 9:23-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos