Fel yr oedd Iesu yn myned, y bobl á’i gwasgent ef; a gwraig yr hon á fuasai dros ddeg a dwy flynedd yn cael ei blino gàn ddyferlif gwaed, ac á dreuliasai àr feddygon ei holl fywioliaeth, y rhai ni allent neb o honynt ei hiachâu hi, á ddaeth o’r tu cefn, ac á gyfhyrddodd â siobyn ei fantell ef, ac yn y fàn y safodd dyferlif ei gwaed hi. Yna y dywedodd Iesu, Pwy á gyfhyrddodd â mi? Ac â phawb yn gwadu, dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, Feistr, y mae y lliaws yn ymdỳru arnat, ac yn dy wasgu, ac á ddywedi di, Pwy á gyfhyrddodd â mi? Iesu á atebodd, Rhywun á gyfhyrddodd â mi; canys yr wyf yn ymwybodol ddarfod i’m gallu yr awrhon gael ei ymarferyd. Yna y wraig pan ganfu ddarfod ei dadguddio, á ddaeth dàn grynu, a, gwedi syrthio i lawr gèr ei fron ef, á fynegodd iddo, yn ngwydd yr holl bobl, paham y cyfhyrddasai hi ag ef, a pha wedd yr iachesid hi yn ebrwydd: yntau á ddywedodd wrthi, Ferch, cỳmer gysur, dy ffydd á’th iachâodd; dos mewn heddwch.
Darllen Luwc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 8:43-48
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos