Ar ryw ddiwrnod wedi i Iesu fyned i long gyda ’i ddysgyblion, efe á ddywedodd wrthynt, Croeswn y llyn. Yn ganlynol hwy á gychwynasant. Ond tra yr oeddynt yn hwylio, efe á hunodd; a chwythodd y fath dymhestl àr y llyn, nes llanw y llong â dwfr, a pheryglu eu bywydau. A hwy á ddaethant ato, ac á’i deffroisant ef, gàn ddywedyd, Feistr, Feistr, darfu am danom. Yntau á gyfododd ac á geryddodd y gwynt, a dygyfor y dwfr, a hwy á beidiasant; a hi á aeth yn dawel. Ac Iesu á ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? Hwythau á ddywedasant wrth eu gilydd, gydag ofn a rhyfeddod, Pwy yw hwn sydd yn gorchymyn hyd yn nod i’r gwyntoedd a’r dwfr, a hwythau yn ufyddâu iddo? A hwy á gyrhaeddasant wlad y Gadareaid, yr hon sydd o’r tu arall àr gyfer Galilea.
Darllen Luwc 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 8:22-26
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos