Gwedi gorphen o hono ei ymadrawdd yn nghlywedigaeth y bobl, efe á aeth i fewn i Gapernäum. A gwas i ganwriad, yr hwn oedd anwyl gàn ei feistr, oedd yn glaf, yn mron marw. A’r canwriad wedi clywed sôn am Iesu, á ddanfonodd ato henuriaid Iuddewig, i attolygu arno ddyfod ac achub ei was ef. Pan ddaethant at Iesu, hwy á attolygasant arno yn daer, gàn ddywedyd, Y mae efe yn deilwng o’r gymwynas yma; oblegid y mae yn caru ein cenedl ni; ac efe á adeiladodd ein cynnullfa ni. Yna Iesu á aeth gyda hwynt; a phan oedd efe heb fod nebpell oddwrth y tŷ, y canwriad á anfonodd gyfeillion ato i ddywedyd, Feistr, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod o honot dàn fy nghronglwyd; ac yn wir ni thybiais fy hun yn gymhwys i ddyfod i’th ŵydd: dywed ond y gair a’m gwas á iachêir. Canys hyd yn nod myfi, yr hwn wyf dàn awdurdod ereill, â chenyf filwyr danaf, á ddywedaf wrth un, Dos, ac efe á â; wrth arall, Dyred, ac efe á ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe á’i gwna. Iesu gwedi clywed y pethau hyn á ryfeddodd wrtho, a gwedi troi, á ddywedodd wrth y dyrfa oedd yn canlyn, Yr wyf yn sicrâu i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, hyd yn nod yn Israel. A’r rhai à ddanfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, á gawsant y gwas à fuasai glaf, yn holliach.