Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luwc 7:36-50

Luwc 7:36-50 CJW

Ac un o’r Phariseaid á ofynodd i Iesu fwyta gydag ef: yntau á aeth i dŷ y Pharisead, ac á osododd ei hun wrth y bwrdd. Ac, wele, gwraig o’r ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi ei fod ef yn bwyta yn nhŷ y Pharisead, á ddyg flwch gleinfaen o enaint, a chàn sefyll wrth ei draed ef o’r tu ol dàn wylo, á’u baddiodd hwynt â dagrau, ac á’u sychodd â gwallt ei phen, ac á gusanodd ei draed ef, ac á’u hirodd â’r enaint. Y Pharisead, yr hwn á’i gwahoddasai, pan welodd hyn, á ddywedodd ynddo ei hun, Pe buasai hwn broffwyd, efe á wybuasai pwy yw y ddynes hon sydd yn cyfhwrdd ag ef, ac o ba nodwedd; oblegid pechadures yw hi. Yna Iesu á ddywedodd wrtho, Simon, y mae genyf rywbeth iddei ddywedyd wrthyt. Yntau á atebodd, Rabbi, dywed. Dau ddyledwr oedd i’r un echwynwr; y naill oedd arno bùmm cànn ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain. A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe á faddeuodd iddynt ill dau. Dywed, gàn hyny, pa un o honynt á’i câr ef yn fwyaf? Simon á atebodd, Yr wyf fi yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Iesu á atebodd, Uniawn y bernaist. Yna gwedi troi at y wraig, efe á ddywedodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? Pan ddaethym i’th dŷ, ni roddaist ti i mi ddwfr i’m traed; ond hon á olchodd fy nhraed â dagrau, ac á’u sychodd â’i gwallt. Ni roddaist ti i mi gusan; ond hon èr pan ddaeth i fewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed. Ti nid iraist fy mhen ag olew; ond hon á irodd fy nhraed ag enaint. Am hyny, yr wyf yn dywedyd wrthyt, maddeuwyd ei phechodau hi, y rhai ydynt lawer; am hyny, ei chariad sy fawr. Ond y sawl y maddeuir ychydig iddo, á gâr ychydig. Yna y dywedodd efe wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau. Y rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd, á ddywedasant ynynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd hyd yn nod yn maddau pechodau? Ond efe á ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd á’th gadwodd; dos mewn heddwch.