A dysgyblion Ioan á fynegasant iddo yr holl bethau hyn, ac efe á alwodd ddau o honynt ac á’u hanfonodd at Iesu i ofyn iddo, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod? ai un arall sy raid i ni ei ddysgwyl? Wedi iddynt ddyfod ato, hwy á ddywedasant, Ioan y Trochiedydd á’n hanfonodd ni i ofyn i ti, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod? ai un arall sy raid i ni ei ddysgwyl? Ar yr awr hòno yr oedd Iesu yn gwaredu llawer oddwrth glefydau a heintiau, ac ysbrydion drwg, ac yn rhoddi eu golwg i lawer o ddeillion. Ac efe á roddes yr atebiad hwn, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau à welsoch ac á glywsoch: gwneir i’r deillion weled, i’r cloffion rodio, i’r byddariaid glywed; y gwahangleifion á lanêir, y meirw á gyfodir, newydd da á ddygir i’r tylodion. A dedwydd yw yr hwn ni byddaf yn dramgwyddfa iddo.
Darllen Luwc 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luwc 7:18-23
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos