Luwc 19
19
1-10Pan aethai Iesu i fewn i Iericho, ac yr oedd yn myned drwyddi, wele, gwr à elwid Zacchëus, yr hwn oedd gyfoethog, ac yn bentollwr, oedd yn ceisio gweled pa fath un oedd efe, ond nis gallai gàn y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Am hyny, gwedi rhedeg o’r blaen, efe á ddringodd i fasarnen, fel y gallai ei weled ef, canys efe á sylwasai mai y ffordd hòno yr oedd efe yn myned. Pan ddaeth Iesu i’r lle, efe á edrychodd i fyny, a gwedi ei ganfod ef, á ddywedodd, Zacchëus, disgyn àr frys, canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di. Ac efe á ddisgynodd àr frys, ac á’i derbyniodd ef yn llawen. Pan ganfu y dyrfa hyn, hwy á ddywedasant, dan rwgnach, Efe á aeth i gael ei arfolli gàn bechadur. Eithr Zacchëus, gàn sefyll gèr bron Iesu, á ddywedodd, Feistr, hanner fy na á roddaf i’r tylodion; ac os gwneuthym gam â neb mewn dim, mi á’i talaf àr ei bedwerydd. Ac Iesu á ddywedodd am dano ef, Heddyw y daeth iechydwriaeth i’r tŷ hwn, yn gymaint a’i fod yntau hefyd yn fab i Abraham. Canys Mab y Dyn á ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn á gollasid.
11-27Gan fod y bobl yn wrandawgar, efe á chwanegodd y ddameg hon, am ei fod yn agos i Gaersalem, a hwythau yn tybied y dechreuai Teyrnasiad Duw yn ebrwydd. Rhyw bendefig á aeth àr led i gaffael iddo ei hun y brenindawd, ac yna dychwelyd; a gwedi galw deg o’i weision, a rhoddi iddynt ddeg punt, efe á ddywedodd, Maelierwch â’r rhai hyn, hyd oni ddychwelwyf. Ond ei ddinesyddion á’i casâasant ef, ac á ddanfonasant gènadwri àr ei ol ef, gàn ardystio, Ni fỳnwn ni mo hwn yn frenin arnom. Pan ddychwelodd efe, ag awdurdod breninol ganddo, efe á archodd alw y gweision hyny, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth á elwasai pob un. Yna y daeth y cyntaf, ac á ddywedodd, Fy Arglwydd, dy bunt á ennillodd ddeg punt, Yntau á atebodd, Da, was da; am i ti fod yn ffyddlawn àr ychydig iawn, cỳmer lywodraeth àr ddeg dinas. A’r ail à ddaeth, á ddywedodd, Fy Arglwydd, dy bunt á ennillodd bumm punt. Yntau á atebodd, Bydd dithau yn llywodraethwr àr bumm dinas. Un arall á ddaeth, gàn ddywedyd, Fy Arglwydd, dyma dy bunt, yr hon á gedwais wedi ei dodi mewn napcyn; canys mi á’th ofnais, am dy fod yn feistr caled; yr wyt ti yn cymeryd i fyny yr hyn ni roddaist i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuaist. Yntau á atebodd, O’th enau dy hun yth euogfarnaf, tydi was drwg. A wyddit ti fy mod i yn feistr caled, yn cymeryd i fyny yr hyn ni roddais i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuais? Paham, gàn hyny, na roddasit fy arian yn yr arianfa, fel pan ddychwelaswn y gallaswn ei dderbyn gyda llog? Yna efe á ddywedodd wrth ei weinyddion, Cymerwch y bunt oddarno ef, a rhoddwch i’r hwn sy ganddo ddeg punt. Hwythau á atebasant, Fy Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt. Yntau á adatebodd, Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir ychwaneg; ond oddar yr hwn nid oes ganddo, y dygir, hyd yn nod yr hyn sy ganddo. Eithr am fy ngelynion hyny, y rhai ni fỳnasent i mi fod yn frenin arnynt, dygwch hwynt yma a lleddwch yn fy ngwydd i.
DOSBARTH XII.
Y Mynediad i fewn i Gaersalem.
28-40Gwedi yr ymadrawdd hwn, Iesu á gerddodd yn mlaenaf, gàn ymdaith tua Chaersalem. Pan ddaeth efe yn agos at Fethphage a Bethania, gèr y mynydd à elwir Mynydd yr Oleẅwydd, efe á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, gan ddywedyd, Ewch i’r pentref acw, lle, àr eich mynediad i fewn, y cewch ebol wedi ei rwymo, àr yr hwn ni farchogodd dyn erioed; gollyngwch ef, a dygwch yma. Os gofyn neb paham y gollyngwch ef, chwi á atebwch, Am fod yn raid i’r Meistr wrtho. Yn ganlynol, y rhai à ddanfonasid á aethant, ac á gawsant bob peth fel y dywedasai efe wrthynt. Fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, y perchenogion á ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? Hwythau á atebasant, Y mae yn raid i’r Meistr wrtho. Felly hwy á’i dygasant ef at Iesu, a gwedi iddynt daflu eu mantelli àr yr ebol, hwy á ddodasant Iesu arno. Fel yr oedd efe yn myned, y bobl á daenasant eu mantelli àr hyd y ffordd o’i flaen ef. Wedi dyfod o hono mòr agos â disgynfa Mynydd yr Oleẅwydd, yr holl liaws dysgyblion á ddechreuasant foliannu Duw mewn bloddestau uchel, am yr holl wyrthiau à welsent, gàn ddywedyd, Bendigedig fyddo y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaflëoedd! Ar hyn, rhyw Phariseaid yn y dyrfa, á ddywedasant wrtho, Rabbi, cerydda dy ddysgyblion. Yntau á atebodd, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, pe tawai y rhai dyn, y llefai y cèryg.
41-44Gwedi iddo ddyfod yn agos a gweled y ddinas, efe á wylodd drosti, gàn ddywedyd, O na wybuasit, o’r hyn lleiaf yn dy ddydd hwn, y pethau à berthynant i’th heddwch! Eithr y maent yn awr yn guddiedig oddwrth dy lygaid: oblegid y mae y dyddiau yn dyfod arnat, pan yr amgylchyna dy elynion di â gwarchglawdd, ac yth amgauant, ac yth warchaeant o bob parth; ac yth wnant yn gydwastad â’r llawr, tydi a’th blant, a ni adawant i ti faen àr faen, am nad adnabuost yr amser yr ymwelwyd â thi.
45-46Gwedi hyny efe á aeth i’r deml, ac á ỳrodd allan oddyno y rhai à werthent ac á brynent ynddi, gàn ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, “Fy nhŷ i tŷ gweddi yw, ond chwi á’i gwnaethoch yn ffau ysbeilwyr.”
47-48Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml, tra yr oedd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r pènaethiaid, yn ceisio ei ddyfetha ef; ond nis gallent ddyfeisio pa fodd i wneyd hyny; oblegid yr oedd yr holl bobl yn gwrandaw arno gyda ’r dyfalwch mwyaf.
Dewis Presennol:
Luwc 19: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.