Pan aethai Iesu i fewn i Iericho, ac yr oedd yn myned drwyddi, wele, gwr à elwid Zacchëus, yr hwn oedd gyfoethog, ac yn bentollwr, oedd yn ceisio gweled pa fath un oedd efe, ond nis gallai gàn y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Am hyny, gwedi rhedeg o’r blaen, efe á ddringodd i fasarnen, fel y gallai ei weled ef, canys efe á sylwasai mai y ffordd hòno yr oedd efe yn myned. Pan ddaeth Iesu i’r lle, efe á edrychodd i fyny, a gwedi ei ganfod ef, á ddywedodd, Zacchëus, disgyn àr frys, canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di. Ac efe á ddisgynodd àr frys, ac á’i derbyniodd ef yn llawen. Pan ganfu y dyrfa hyn, hwy á ddywedasant, dan rwgnach, Efe á aeth i gael ei arfolli gàn bechadur. Eithr Zacchëus, gàn sefyll gèr bron Iesu, á ddywedodd, Feistr, hanner fy na á roddaf i’r tylodion; ac os gwneuthym gam â neb mewn dim, mi á’i talaf àr ei bedwerydd. Ac Iesu á ddywedodd am dano ef, Heddyw y daeth iechydwriaeth i’r tŷ hwn, yn gymaint a’i fod yntau hefyd yn fab i Abraham. Canys Mab y Dyn á ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn á gollasid.