Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 9

9
DOSBARTH VII.
Tröedigaeth Saul o Darsus.
1-16Ond Saul, eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn dysgyblion yr Arglwydd, á ddaeth at yr archoffeiriad, ac á ddeisyfodd lythyrau ganddo at y cynnullfëydd yn Namascus; fel, os cai efe neb o’r ffordd hòno, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rwym i Gaersalem. A fel yr oedd efe yn ymdaith, a gwedi dyfod yn agos i Ddamascus, yn ddisymwth, melltenodd o’i amgylch oleuni o’r nef; ac efe á syrthiodd àr y llawr, ac á glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Yntau á ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd á ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: ond cyfod, a dos i’r ddinas, a fe ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur. A’r gwyr oedd yn cyd‐deithio ag ef, á safasant yn syn; gàn glywed y llais, yn wir, ond heb weled neb. Yna y cyfododd Saul oddar y ddaiar; ac èr bod ei lygaid yn agored, ni welai efe neb: ond hwy á’i tywysasant ef erbyn ei law, ac á’i dygasant ef i Ddamascus. Ac efe á fu dridiau heb weled, a ni wnaeth na bwyta nac yfed. Ac yr oedd rhyw ddysgybl yn Namascus, a’i enw Ananias; a’r Arglwydd á ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananias! Yntau á ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. A’r Arglwydd á ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol à elwir Uniawn, ac ymofyn yn nhŷ Iuwdas, am wr o Darsus, a’i enw Saul; canys, wele, y mae efe yn gweddio arnaf fi; ac y mae efe gwedi gweled mewn gweledigaeth wr a’i enw Ananias, yn dyfod i fewn ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith. Yna yr atebodd Ananias, Arglwydd, mi á glywais gàn laweroedd am y gwr hwn, faint o ddrygau á wnaeth efe i’th saint di yn Nghaersalem; ac yma y mae ganddo awdurdod oddwrth yr archoffeiriaid i rwymo pawb sydd yn galw àr dy enw di. Ond yr Arglwydd á ddywedodd wrtho, Dos ymaith; canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gèr bron cenedloedd, a breninoedd, a phlant Israel: canys myfi á ddangosaf iddo pa faint o bethau sy raid iddo eu dyoddef dros fy enw i.
17-31Yna yr aeth Ananias ymaith, ac à aeth i fewn i’r tŷ; a gwedi dodi ei ddwylaw arno, efe á ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd, sef Iesu, yr hwn á ymddangosodd i ti àr y ffordd, pan oeddit yn dyfod, á’m danfonodd i; fel y gwelych drachefn, ac yth lanwer â’r Ysbryd Glan. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddwrth ei lygaid ef rywbeth megys cèn; ac efe á gafodd ei olwg, ac á gyfododd, ac á drochwyd: a gwedi iddo gymeryd bwyd, efe á gryfâodd, ac efe á arosodd gyda ’r dysgyblion yn Namascus dalm o ddyddiau. Ac ỳn ddioed yn y cynnullfëydd efe á gyhoeddodd Iesu, mai efe yw Mab Duw. A phawb à’i clywsant ef á sỳnasant, ac á ddywedasant, Onid hwn yw yr un, oedd yn Nghaersalem, yn anrheithio y sawl à alwent àr yr enw hwn; ac á ddaeth yma, yn un swydd, fel y dygai hwynt yn rwym at yr archoffeiriaid? Ond Saul á aeth yn gryfach, ac á ddyrysodd yr Iuddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gàn gadarnâu mai hwn yw y Messia. Ac, àr ol llawer o ddyddiau, cydfwriadodd yr Iuddewon iddei ladd ef: ond eu bwriad á wnaed yn hysbys i Saul: a hwy á wyliasant y pyrth, ddydd a nos, èr ei lofruddio ef. Ond y dysgyblion á’i cymerasant ef o hyd nos, ac á’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged. A gwedi ei ddyfod i Gaersalem, efe á geisiodd gymdeithasu â’r dysgyblion; ond yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb goelio mai dysgybl oedd efe. Ond Barnabas á’i cymerodd ef, ac á’i dyg at yr Apostolion, ac á fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd àr y ffordd; a llefaru o hono wrtho ef, a pha fodd y pregethasai efe yn hyf, yn Namascus, yn enw Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn dyfod i fewn ac yn myned allan, yn Nghaersalem, ac yn llefaru yn hyf yn enw yr Arglwydd Iesu. Ac efe á lefarodd ac á ddadleuodd yn erbyn yr Hèleniaid; ond hwy á geisiasant ei ladd ef: a’r brodyr, pan wybuant, á’i harweiniasant ef i Gaisarea, ac á’i danfonasant ymaith i Darsus. Yna y cynnulleidfäoedd, drwy holl Iuwdea, a Galilea, a Samaria, gàn gael eu hadeiladu, á gawsant heddwch; a chàn rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn rhybyddiant yr Ysbryd Glan, hwy á liosogwyd.
32-35A bu, i Bedr, wrth roi tro drwy yr holl gynnulleidfäoedd, ddyfod hefyd at y saint y rhai oedd yn trigo yn Lỳda. Ac efe á gafodd yno ryw ddyn, a’i enw Aineas, yr hwn oedd a’r parlys arno, ac á orweddasai àr wely wyth mlynedd A Phedr á ddywedodd wrtho, Aineas, y mae Iesu, y Messia, yn dy iachâu di; cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe á gyfododd yn ebrwydd. A holl drigolion Lỳda a Saron á’i gwelsant ef, ac á droisant at yr Arglwydd.
36-43Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddysgybles, a’i henw Tabitha, yr hon, drwy gyfieithiad, á elwir Dorcas; a hon oedd yn llawn o weithredoedd da, ac elusenau, y rhai á wnaethai hi. A dygwyddodd yn y dyddiau hyny, iddi fyned yn glaf, a marw. A gwedi iddynt ei golchi, hwy á’i dodasant hi mewn goruchystafell. A chàn bod Lỳda yn agos i Ioppa, y dysgyblion, wedi clywed bod Pedr yno, á ddanfonasant ddau wr ato ef, gàn ddeisyf nad oedai ddyfod atynt hwy. A Phedr á gyfododd, ac á aeth gyda hwynt. A gwedi ei ddyfod, hwy á’i dygasant ef i fyny i’r oruchystafell; a’r holl wragedd gweddwon á safasant yn ei ymyl ef yn wylo; ac yn dangos y peisiau a’r mentyll, à wnaethai Dorcas, tra yr ydoedd hi gyda hwynt. A Phedr wedi eu bwrw hwynt i gyd allan, á aeth àr ei liniau ac á weddiodd; a gwedi troi at y corff, efe á ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi á agorodd ei llygaid, a phan welodd hi Bedr, hi á gododd yn ei heistedd. A gwedi rhoddi ei law iddi, efe á’i cyfododd hi i fyny; a gwedi galw y saint a’r gwragedd gweddwon, efe á’i gosododd hi gèr bron yn fyw. A hysbys fu hyn drwy holl Ioppa; a llawer á gredasant yn yr Arglwydd. Ac efe á arosodd yn Ioppa lawer o ddyddiau, yn nhŷ un Simon, crwyngyffeithydd.

Dewis Presennol:

Gweithredoedd 9: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda