Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 9:17-31

Gweithredoedd 9:17-31 CJW

Yna yr aeth Ananias ymaith, ac à aeth i fewn i’r tŷ; a gwedi dodi ei ddwylaw arno, efe á ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd, sef Iesu, yr hwn á ymddangosodd i ti àr y ffordd, pan oeddit yn dyfod, á’m danfonodd i; fel y gwelych drachefn, ac yth lanwer â’r Ysbryd Glan. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddwrth ei lygaid ef rywbeth megys cèn; ac efe á gafodd ei olwg, ac á gyfododd, ac á drochwyd: a gwedi iddo gymeryd bwyd, efe á gryfâodd, ac efe á arosodd gyda ’r dysgyblion yn Namascus dalm o ddyddiau. Ac ỳn ddioed yn y cynnullfëydd efe á gyhoeddodd Iesu, mai efe yw Mab Duw. A phawb à’i clywsant ef á sỳnasant, ac á ddywedasant, Onid hwn yw yr un, oedd yn Nghaersalem, yn anrheithio y sawl à alwent àr yr enw hwn; ac á ddaeth yma, yn un swydd, fel y dygai hwynt yn rwym at yr archoffeiriaid? Ond Saul á aeth yn gryfach, ac á ddyrysodd yr Iuddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gàn gadarnâu mai hwn yw y Messia. Ac, àr ol llawer o ddyddiau, cydfwriadodd yr Iuddewon iddei ladd ef: ond eu bwriad á wnaed yn hysbys i Saul: a hwy á wyliasant y pyrth, ddydd a nos, èr ei lofruddio ef. Ond y dysgyblion á’i cymerasant ef o hyd nos, ac á’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged. A gwedi ei ddyfod i Gaersalem, efe á geisiodd gymdeithasu â’r dysgyblion; ond yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb goelio mai dysgybl oedd efe. Ond Barnabas á’i cymerodd ef, ac á’i dyg at yr Apostolion, ac á fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd àr y ffordd; a llefaru o hono wrtho ef, a pha fodd y pregethasai efe yn hyf, yn Namascus, yn enw Iesu. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn dyfod i fewn ac yn myned allan, yn Nghaersalem, ac yn llefaru yn hyf yn enw yr Arglwydd Iesu. Ac efe á lefarodd ac á ddadleuodd yn erbyn yr Hèleniaid; ond hwy á geisiasant ei ladd ef: a’r brodyr, pan wybuant, á’i harweiniasant ef i Gaisarea, ac á’i danfonasant ymaith i Darsus. Yna y cynnulleidfäoedd, drwy holl Iuwdea, a Galilea, a Samaria, gàn gael eu hadeiladu, á gawsant heddwch; a chàn rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn rhybyddiant yr Ysbryd Glan, hwy á liosogwyd.