Ond Saul, eto yn chwythu bygythiau a chelanedd yn erbyn dysgyblion yr Arglwydd, á ddaeth at yr archoffeiriad, ac á ddeisyfodd lythyrau ganddo at y cynnullfëydd yn Namascus; fel, os cai efe neb o’r ffordd hòno, na gwŷr na gwragedd, y gallai efe eu dwyn hwy yn rwym i Gaersalem. A fel yr oedd efe yn ymdaith, a gwedi dyfod yn agos i Ddamascus, yn ddisymwth, melltenodd o’i amgylch oleuni o’r nef; ac efe á syrthiodd àr y llawr, ac á glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Yntau á ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A’r Arglwydd á ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: ond cyfod, a dos i’r ddinas, a fe ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur. A’r gwyr oedd yn cyd‐deithio ag ef, á safasant yn syn; gàn glywed y llais, yn wir, ond heb weled neb. Yna y cyfododd Saul oddar y ddaiar; ac èr bod ei lygaid yn agored, ni welai efe neb: ond hwy á’i tywysasant ef erbyn ei law, ac á’i dygasant ef i Ddamascus. Ac efe á fu dridiau heb weled, a ni wnaeth na bwyta nac yfed. Ac yr oedd rhyw ddysgybl yn Namascus, a’i enw Ananias; a’r Arglwydd á ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananias! Yntau á ddywedodd, Wele fi, Arglwydd. A’r Arglwydd á ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i’r heol à elwir Uniawn, ac ymofyn yn nhŷ Iuwdas, am wr o Darsus, a’i enw Saul; canys, wele, y mae efe yn gweddio arnaf fi; ac y mae efe gwedi gweled mewn gweledigaeth wr a’i enw Ananias, yn dyfod i fewn ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith. Yna yr atebodd Ananias, Arglwydd, mi á glywais gàn laweroedd am y gwr hwn, faint o ddrygau á wnaeth efe i’th saint di yn Nghaersalem; ac yma y mae ganddo awdurdod oddwrth yr archoffeiriaid i rwymo pawb sydd yn galw àr dy enw di. Ond yr Arglwydd á ddywedodd wrtho, Dos ymaith; canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gèr bron cenedloedd, a breninoedd, a phlant Israel: canys myfi á ddangosaf iddo pa faint o bethau sy raid iddo eu dyoddef dros fy enw i.