Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 23

23
1-10A Phaul yn edrych yn graff àr y Sanhedrim, á ddywedodd, Frodyr, myfi á ymddygais, hyd y dydd heddyw, mewn pob cydwybod dda tuag at Dduw. Ac Ananias, yr archoffeiriad, á archodd i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, ei daro ef àr ei enau. Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw sydd àr fedr dy daro di, bared wedi ei wỳngalchu! Canys á ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ol y gyfraith, ac èr hyny, gàn droseddu y gyfraith, yn peri fy nharo i? A’r rhai à safent gerllaw, á ddywedasant, A wyt ti yn difenwi archoffeiriad Duw? A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe; canys ysgrifenedig yw, “Na ddywed yn ddrwg am bènaeth dy bobl.” Yna Paul, pan ganfu bod y naill ran yn Saduwceaid, a’r llall yn Phariseaid, á lefodd yn y Sanhedrim, Frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead; am obaith adgyfodiad y meirw, yr ydys yn fy nwyn i i farn. Ac àr ei fod yn dywedyd hyn, aeth yn ymryson rhwng y Phariseaid a’r Saduwceaid; a rhànwyd y lliaws. Oblegid y Saduwceaid á ddywedant nad oes nac adgyfodiad, nac angel, nac ysbryd; ond y Phariseaid á addefant bob un o’r ddau. A bu llefain mawr; a’r ysgrifenyddion y rhai oedd o du y Phariseaid, á godasant i fyny, ac á ymrysonasant, gàn ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn; ond os ysbryd, neu angel á lefarodd wrtho, “nac ymladdwn yn erbyn Duw.” A gwedi cyfodi terfysg mawr, y cadben, yn ofni rhag tỳnu Paul yn drylliau ganddynt, á berodd i’r milwyr fyned i waered, a’i gipio ef o’u canol hwynt, a’i ddwyn i’r castell.
11-25A’r nos ganlynol, yr Arglwydd á safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur; canys megys y tystiolaethaist y pethau am danaf fi yn Nghaersalem, felly y mae yn raid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd. A phan aeth hi yn ddydd, rhai o’r Iuddewon, wedi llunio cyfrad, á’u rhwymasant eu hunain â diofryd; gàn ddywedyd, na fwytaent, a nad yfent, nes iddynt ladd Paul. Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai à wnaethent y cynghrair hwn. A hwy á ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac á ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain ag Anathema ddifrifol, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Baul; yn awr, gàn hyny, hysbyswch chwi, gyda’r Sanhedrim, i’r cadben, bod iddo ei ddwyn ef i waered atoch chwi, fel pe byddech am chwilio yn fanylach, i’r hyn à berthyn iddo; a ninnau, cyn y delo efe yn agos atoch ydym barod iddei ladd ef. Ond mab chwaer Paul, wedi clywed am y cynllwyn, á ddaeth, a gwedi myned i fewn i’r castell, á fynegodd i Baul. A Phaul, wedi galw un o’r canwriaid ato, á ddywedodd, Dwg y gwr ieuanc hwn at y cadben, oblegid y mae ganddo beth iddei fynegi iddo. Yntau, gàn hyny, á’i cymerodd, ac á’i dyg at y cadben, ac á ddywedodd, Paul, y carcharor, á’m galwodd i ato, ac á ddymunodd arnaf ddwyn y gwr ieuanc yma atat ti, yr hwn sy ganddo beth iddei ddywedyd wrthyt. A’r cadben á’i cymerodd ef erbyn ei law, a gwedi myned ag ef o’r neilldu, á ofynodd iddo, Beth yw yr hyn sy genyt iddei fynegi i mi? Ac efe á ddywedodd, Yr Iuddewon á gyttunasant â’u gilydd i ofyn i ti, ddwyn Paul y fory i waered i’r Sanhedrim, fel pe baent àr fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. Ond na ddarbwyller di ganddynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugain o honynt, y rhai á roisant ddiofryd, i beidio na bwyta nac yfed, nes y lladdont ef; ac yn awr y maent hwy yn barod, yn dysgwyl yr addewid hon genyt ti. Y cadben, gàn hyny, á ollyngodd y gwr ieuanc ymaith, gydag archeb, Gofala na ddywedych i neb, amlygu o honot y pethau hyn i mi. Ac efe á alwodd ato ddau o’r canwriaid, ac á ddywedodd, Parotowch ddau gant o filwyr, i fyned i Gaisarea; a seithdeg o wŷr meirch, a deugant o ffỳnwewŷr, erbyn y drydedd awr o’r nos: a darparwch ysgrubliaid i osod Paul arnynt, a dygwch ef yn ddiogel at Ffelics, y rhaglaw. Ac efe á ysgrifenodd lythyr, cynnwysion yr hwn sydd yn yr #23:11 Copy.eilun yma: –
26Clawd Lysias, at ei ardderchogrwydd, Ffelics y rhaglaw, yn anfon anerch:
27-30Y gwr hwn á ddaliwyd gàn yr Iuddewon, ac á fu agos a chael ei ladd ganddynt; pryd y daethym i gyda llu o filwyr, ac yr achubais ef: ac yr wyf wedi deall àr ol hyny, mai Rhufeinwr yw efe. A chàn ewyllysio gwybod y bai y cyhuddent ef o hono, mi á’i dygais ef o flaen y Sanhedrim; yr hwn á gefais yn cael ei gyhuddo am arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angeu, neu rwymau. Ond pan hysbyswyd i mi bod yr Iuddewon àr fedr cynllwyn i’r gwr, myfi á’i hanfonais ef allan o law atat ti, gwedi rhybyddio ei gyhuddwyr ef i ddywedyd gèr dy fron di, pa bethau sy ganddynt yn ei erbyn ef. Bydd iach.
31-35Y milwyr, gàn hyny, fel y gorchymynasid iddynt, wedi cymeryd Paul i fyny, á’i dygasant o hyd nos i Antipatris. A thranoeth hwy á ddychwelasant i’r castell, gàn adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef: y rhai, gwedi dyfod i Gaisarea, a rhoddi y llythyr at y rhaglaw, á osodasant Baul hefyd gèr ei fron ef. A gwedi iddo ddarllen y llythyr, efe á ofynodd o ba dalaeth yr oedd efe: a gwedi ei hysbysu mai o Gilicia yr ydoedd, Mi á’th wrandawaf, ebai efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe á orchymynodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.

Dewis Presennol:

Gweithredoedd 23: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda