Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 19

19
1-20A dygwyddodd, tra bu Apòlos yn Nghorinth, wedi i Baul dramwy drwy y parthau uchaf, ddyfod o hono ef i Ephesus; a gwedi iddo gael yno ryw ddysgyblion, efe á ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glan wedi i chwi gredu? A hwy á atebasant iddo, Naddo; ni ddarfu i ni gymaint a chlywed, bod yr Ysbryd Glan wedi ei dderbyn. Ac efe á ddywedodd wrthynt, I ba beth, gàn hyny, y trochwyd chwi? Hwythau á ddywedasant, I drochiad Ioan. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau á weinyddai drochiad diwygiad, gàn ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr Hwn oedd i ddyfod àr ei ol ef; sef, yn Iesu. A gwedi iddynt glywed hyn, hwy á drochwyd i enw yr Arglwydd Iesu. A gwedi i Baul ddodi ei ddwylaw arnynt, yr Ysbryd Glan á ddaeth arnynt; a hwy á draethasant â thafodau, ac á broffwydasant. A’r gwŷr oll oeddynt yn nghylch deg a dau. Ac efe á aeth i fewn i’r gynnullfa, ac á lefarodd gyda hyfdra, gàn ddadleu dros dri mis, a’u darbwyllo hwynt am y pethau à berthynent i deyrnas Duw. Ond gàn bod rhai gwedi caledu, a heb gredu, gàn ddywedyd yn waradwyddus am y ffordd hon gèr bron y lliaws, efe á ymadawodd oddwrthynt, ac á neillduodd y dysgyblion, gàn ddadleu beunydd yn ysgol un Tyrannus. A hyn á wnaed dros yspaid dwy flynedd, nes y bu i holl drigolion Asia, yn Iuddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd. A gwyrthiau hynod á wnaeth Duw drwy ddwylaw Paul; hyd oni ddygid at y cleifion, oddwrth ei gorff ef, foledau, neu ffedogau, a’r clefydau á ymadawent â hwynt, a’r ysbrydion drwg á aent allan. A rhai o’r Iuddewon crwydraidd, y rhai oeddynt dyngadwyr, á gymerasant arnynt enwi enw yr Arglwydd Iesu, uwch ben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynynt, gàn ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tyngedu chwi drwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. Ac yr oedd saith o feibion i un Scefa, archoffeiriad Iuddewig, y rhai oedd yn gwneuthur hyn. Ond yr ysbryd drwg gàn ateb, á ddywedodd, Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul á adwaen; ond pwy ydych chwi? A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, á ruthrodd arnynt, a gwedi eu meistroli, á orfuodd arnynt, nes y ffoisant hwy allan o’r tŷ, yn noethion ac yn archolledig, A hyn á fu hysbys gàn yr holl Iuddewon, a’r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Ephesus; ac ofn á syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu á fawrygwyd. A llawer o’r rhai à gredasant, á ddaethant ac á gyffesasant, ac á fynegasant eu gweithredoedd. A nifer mawr o’r rhai à arferasent swyngelfyddydau, gwedi dwyn eu llyfrau yn nghyd, á’u llosgasant yn ngwydd pawb; a hwy á fwriasant eu gwerth hwy, ac á’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian: mòr gadarn y cynnyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfâodd.
21-41A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, wedi iddo dramwy drwy Facedonia ac Achaia, fyned i Gaersalem, gàn ddywedyd, Wedi i mi fod yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd. A gwedi anfon i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo, sef, Timothëus ac Erastus, efe ei hun á arosodd dros amser yn Asia. A bu, o gylch yr amser hwnw, derfysg nid bychan yn nghylch y ffordd hòno. Canys rhyw ddyn a’i enw Demetrius, gôf arian, wrth wneuthur temligau arian i Ddiana, oedd yn peri elw nid bychan i’r crefftwyr; y rhai á gasglodd efe yn nghyd, gyda ’r gweithwyr à roddid àr waith yn nghylch y gorchwyl, ac á ddywedodd, Gyfeillion, chwi á wyddoch mai oddwrth y gwaith hwn y mae ein cynnaliaeth ni; a chwi á welwch ac á glyẅwch, ddarfod i’r Paul yma ddarbwyllo nifer mawr o bobl, nid yn unig yn Ephesus, eithr agos dros Asia oll, a’u troi hwynt ymaith, gàn ddywedyd, nad ydynt dduwiau y rhai à wneir â dwylaw; nes y mae yn bergyl, nid yn unig i’r alwedigaeth hon o’r eiddom ddyfod i ddirmyg, eithr hefyd i deml y dduwies fawr Diana gael ei chyfrif yn ddiddym, a’i mawrydi hi ei ddystrywio; yr hon y mae Asia oll a’r byd yn eu haddoli. A phan glywsant hyn, hwy á lanwyd o ddigofaint; ac á lefasant, gàn ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid! A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl; a hwy á ruthrasant yn unfryd i’r #19:21 Theatre.gampfa, gàn lusgo yno Gaius ac Aristarchus, Macedoniaid, cydymdeithion Paul. A phan fỳnasai Paul fyned i fewn at y bobl, ni adawai y dysgyblion iddo. A rhai hefyd, prif swyddogion Asia, y rhai oeddynt gyfeillion iddo, á ỳrasant ato, ac á ddeisyfasant arno nad anturiai efe fyned i’r gampfa. Rhai gàn hyny á lefent un peth, ac ereill beth arall; oblegid yr oedd y gynnulleidfa yn gymysg, a’r rhan fwyaf ni wyddent o herwydd pa beth y daethent yn nghyd. A hwy á wthiasant Alecsander allan o’r dyrfa, a’r Iuddewon yn ei ỳru ef yn mlaen. Ac Alecsander, wedi amneidio â’i law, á fỳnasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. Ond pan wybuant mai Iuddew oedd efe, cododd un lef oddwrthynt oll, gàn waeddi dros o gylch yspaid dwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid! Ond y canghellwr, wedi iddo lonyddu y bobl, á ddywedodd, Ephesiaid, pa ddyn sy nas gŵyr bod dinas yr Ephesiaid yn addoli Diana fawr, a’r ddelw à ddisgynodd oddwrth Iau? A chàn bod y pethau hyn yn anwrthddywedadwy, rhaid i chwi fod yn llonydd, a pheidio gwneuthur dim yn fyrbwyll; canys chwi á ddygasoch y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn gablwyr eich duwies chwi. Od oes, gàn hyny, gàn Ddemetrius, a’r crefftwyr sy gydag ef, gwyn yn erbyn neb, cynnelir llysoedd, ac y mae rhaglawiaid, dyged y naill gyhuddawd yn erbyn y llall. Ond os ydych yn ymofyn dim yn nghylch pethau ereill, mewn cynnulleidfa gyfreithlawn y penderfynir hyny. Ac, yn wir, yr ydym mewn perygl rhag achwyn arnom am y terfysg heddyw, gàn nad oes yr un achos drwy yr hwn y gallwn roddi rheswm am yr ymgyrch hwn. A gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe á ollyngodd y gynnulleidfa ymaith.

Dewis Presennol:

Gweithredoedd 19: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda