A dygwyddodd, tra bu Apòlos yn Nghorinth, wedi i Baul dramwy drwy y parthau uchaf, ddyfod o hono ef i Ephesus; a gwedi iddo gael yno ryw ddysgyblion, efe á ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glan wedi i chwi gredu? A hwy á atebasant iddo, Naddo; ni ddarfu i ni gymaint a chlywed, bod yr Ysbryd Glan wedi ei dderbyn. Ac efe á ddywedodd wrthynt, I ba beth, gàn hyny, y trochwyd chwi? Hwythau á ddywedasant, I drochiad Ioan. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau á weinyddai drochiad diwygiad, gàn ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr Hwn oedd i ddyfod àr ei ol ef; sef, yn Iesu. A gwedi iddynt glywed hyn, hwy á drochwyd i enw yr Arglwydd Iesu. A gwedi i Baul ddodi ei ddwylaw arnynt, yr Ysbryd Glan á ddaeth arnynt; a hwy á draethasant â thafodau, ac á broffwydasant. A’r gwŷr oll oeddynt yn nghylch deg a dau. Ac efe á aeth i fewn i’r gynnullfa, ac á lefarodd gyda hyfdra, gàn ddadleu dros dri mis, a’u darbwyllo hwynt am y pethau à berthynent i deyrnas Duw. Ond gàn bod rhai gwedi caledu, a heb gredu, gàn ddywedyd yn waradwyddus am y ffordd hon gèr bron y lliaws, efe á ymadawodd oddwrthynt, ac á neillduodd y dysgyblion, gàn ddadleu beunydd yn ysgol un Tyrannus. A hyn á wnaed dros yspaid dwy flynedd, nes y bu i holl drigolion Asia, yn Iuddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd. A gwyrthiau hynod á wnaeth Duw drwy ddwylaw Paul; hyd oni ddygid at y cleifion, oddwrth ei gorff ef, foledau, neu ffedogau, a’r clefydau á ymadawent â hwynt, a’r ysbrydion drwg á aent allan. A rhai o’r Iuddewon crwydraidd, y rhai oeddynt dyngadwyr, á gymerasant arnynt enwi enw yr Arglwydd Iesu, uwch ben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynynt, gàn ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tyngedu chwi drwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. Ac yr oedd saith o feibion i un Scefa, archoffeiriad Iuddewig, y rhai oedd yn gwneuthur hyn. Ond yr ysbryd drwg gàn ateb, á ddywedodd, Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul á adwaen; ond pwy ydych chwi? A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, á ruthrodd arnynt, a gwedi eu meistroli, á orfuodd arnynt, nes y ffoisant hwy allan o’r tŷ, yn noethion ac yn archolledig, A hyn á fu hysbys gàn yr holl Iuddewon, a’r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Ephesus; ac ofn á syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu á fawrygwyd. A llawer o’r rhai à gredasant, á ddaethant ac á gyffesasant, ac á fynegasant eu gweithredoedd. A nifer mawr o’r rhai à arferasent swyngelfyddydau, gwedi dwyn eu llyfrau yn nghyd, á’u llosgasant yn ngwydd pawb; a hwy á fwriasant eu gwerth hwy, ac á’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian: mòr gadarn y cynnyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfâodd.