Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 16

16
1-5Ac wele, yr oedd yno ryw ddysgybl, a’i enw Timothëus, mab i Iuddewes grediniol; ond ei dad oedd Roegwr; yr hwn oedd a gair da iddo gàn y brodyr yn Lystra, ac Iconium. Paul á fynai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe á’i cymerodd, ac á’i henwaedodd ef, o achos yr Iuddewon oedd yn y lleoedd hyny; oblegid hwynthwy oll á adwaenent ei dad ef, mai Groegwr oedd efe. A fel yr oeddynt yn myned drwy y dinasoedd, hwy á roisant yn nghadw iddynt y gosodion y penderfynasid arnynt gàn yr Apostolion a’r henuriaid, y rhai oedd yn Nghaersalem. Y cynnulleifäoedd, gàn hyny, á gadarnâwyd yn y ffydd, ac á gynnyddasant mewn rhifedi beunydd.
6-8A hwy á aethant drwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwedi gwahardd iddynt gàn yr Ysbryd Glan lefaru y gair yn Asia; pan ddaethant i Fysia, hwy á geisiasant fyned i Fithynia; ond ni oddefodd yr Ysbryd iddynt. A gwedi myned heibio i Fysia, hwy á aethant i waered i Droas.
DOSBARTH XII.
Dygiad yr Efengyl i Facedonia a Thessalonica.
9-12A gweledigaeth á ymddangosodd i Baul liw nos: Rhyw wr o Facedonia á safai gàn ddeisyf arno, a dywedyd, Dyred drosodd i Facedonia, a chymhorth ni. A chygynted ag y gwelsai efe y weledigaeth hon, yn ebrwydd ni á geisiasom fyned i Facedonia, gàn gasglu yn ddiau alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy. Gwedi myned allan, gàn hyny, o Droas, ni á gyrchasom yn uniawn i Samothracia; a thranoeth i Neapolis; ac oddyno i Philippi, yr hon sy ddinas o barth cyntaf Macedonia, ac yn drefedigaeth; a ni á arosasom yn y ddinas hon rai dyddiau.
13-34Ac àr ddydd y Seibiaeth, ni á aethom allan o’r ddinas i lan yr afon, lle yn ol arfer, yr oedd gweddifa; a gwedi eistedd o honom, ni á lefarasom wrth y gwragedd, y rhai oedd wedi ymgasglu yno. A rhyw wraig, a’i henw Lydia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thyatira, yr hon oedd yn addoli Duw, á glywodd yr ymadrawdd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal àr y pethau á lefarid gàn Baul. A gwedi ei throchi hi a’i theulu, hi á ddymunodd arnom, gàn ddywedyd, Os barnasoch fy mod i yn ffyddlawn i’r Arglwydd, deuwch i fewn i’m tŷ, ac aroswch yno. A hi á’n cymhellodd ni. A dygwyddodd fel yr oeddym yn myned i’r weddifa, i ryw lances gyfarfod â ni â chanddi ysbryd dewiniaeth, yr hon oedd yn peri llawer o elw iddei meistraid drwy ddewinio: hon á ddylynodd Baul a ninnau, ac á lefodd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iechydwriaeth. A hyn á wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, á droes ac á ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr wyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan o honi. Ac efe á aeth allan yr awr hòno. A phan welodd ei meistraid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, hwy á ddaliasant Baul a Silas, ac á’u llusgasant hwy i’r farchnadfa, at y llywiawdwyr: a gwedi iddynt eu dwyn hwy at gadfridogion y fyddin, hwy á ddywedasant, Y mae y dynion hyn, y rhai ydynt Iuddewon, yn tratherfysgu ein dinas ni; ac yn dysgu defodau, y rhai nid yw rydd i ni eu derbyn, a ni yn Rhufeinwyr. A’r lliaws á gododd i fyny yn nghyd yn eu herbyn hwy; a’r cadfridogion gàn rwygo eu dillad, á orchymynasant eu curo hwynt â gwiail. A gwedi rhoddi gwïalenodiau lawer iddynt, hwy á’u taflasant i garchar, gàn orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel. Yr hwn, wedi derbyn y fath orchymyn caeth, á’u bwriodd hwynt i’r carchar nesaf i mewn, ac á wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion. Ond àr hanner nos, Paul a Silas wedi gweddio, á ganasant emyn i Dduw: a’r carcharorion á’u clywsant hwy. Ac yn ddisymwth, bu daiargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau y carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau á agorwyd, a rhwymau yr holl garcharorion á aethant yn rydd. A phan ddeffroes ceidwad y carchar, a chanfod drysau y carchar yn agored, efe á dynodd ei gleddyf, ac á amcanodd ei ladd ei hun; gàn dybied ffoi o’r carcharorion ymaith. Eithr Paul á lefodd â llef uchel, gàn ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed, canys yr ydym ni yma oll. A efe á alwodd am oleu, ac á ruthrodd i fewn; a mewn dychryn, efe á syrthiodd i lawr gèr bron Paul a Silas; a gwedi eu dwyn hwynt allan, efe á ddywedodd, O feistraid, beth sy raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig? A hwy á ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, á chadwedig fyddi, ti a’th deulu. A hwy á draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef. Ac efe á’u cymerodd hwy, yr awr hòno o’r nos, ac á olchodd eu briwiau; ac efe á drochwyd, a’r eiddo oll yn y màn. A gwedi iddo eu dwyn hwynt iddei dŷ, efe á osododd y bwrdd gèr eu bron hwy: a chan gredu yn Nuw, yn nghyd a’i holl deulu, efe á lawenychodd yn ddirfawr.
35-40A phan aeth hi yn ddydd, y penswyddogion á ddanfonasant y rhingyllau, gàn ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hyny. A cheidwad y carchar á fynegodd y pethau hyn i Baul, Y cadfridogion á ddanfonasant i’ch gollwng chwi ymaith; yn awr, gàn hyny, ewch allan, a cherddwch i’ch taith, mewn heddwch. Eithr Paul á ddywedodd wrthynt, Hwy á’n curasant ni, a ninnau yn Rhufeinwyr, yn gyhoedd a heb ein heuogfarnu, ac á’n bwriasant ni i garchar; ac, yn awr, a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? Nid felly ddim: ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan. A’r rhingyllau á fynegasant y geiriau hyn i’r cadfridogion. A gwedi iddynt glywed mai Rhufeinwyr oeddynt, hwy á ofnasant: a hwy á ddaethant, ac á’u cysurasant hwynt; a gwedi eu dwyn allan, hwy á ddeisyfasant arnynt ymadael o’r ddinas. A gwedi dyfod allan o’r carchar, hwy á aethant i fewn i dŷ Lydia; a gwedi iddynt weled y brodyr, hwy á’u cysurasant, ac á ymadawsant.

Dewis Presennol:

Gweithredoedd 16: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda