Gweithredoedd 12
12
1-5Ac yn nghylch y pryd hwnw, Herod frenin á osododd ddwylaw àr rai o’r gynnulleidfa, èr eu cystuddio hwynt. Ac efe á laddodd Iago, brawd Iöan, â’r cleddyf. A phan welodd bod hyny wrth fodd yr Iuddewon, efe á chwanegodd ddàla Pedr hefyd: ac yn nyddiau y bara cröew y bu hyn; a gwedi iddo ei ddal ef, efe á’i rhoddes yn ngharchar, gàn ei draddodi yn nghadwriaeth pedwar pedwariaid o filwyr; gàn fwriadu, àr ol y Pasc, ei ddwyn ef allan at y bobl. Yn y cyfamser, gàn hyny, cadwyd Pedr yn y carchar; eithr gweddi ddyfal a didor á wnaethwyd, gàn y gynnulleidfa, at Dduw, àr ei ràn ef.
6-12A phan oedd Herod àr fedr ei ddwyn ef allan, y nos hòno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. Ac, wele, cènad i’r Arglwydd á safodd gerllaw, a goleuni á ddysgleiriodd yn y tŷ; a gwedi iddo daro Pedr àr ei ystlys, efe á’i deffroes ef, gàn ddywedyd, Cyfod yn uniawn: a’i gadwynau ef á syrthiasant oddwrth ei ddwylaw. A dywedodd y gènad wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau; ac efe á wnaeth felly. Ac efe á ddywedodd wrtho, Tafl dy fantell am danat, a chanlyn fi. A gwedi myned allan, efe á’i canlynodd ef; ac efe nis gwyddai mai gwir oedd yr hyn à wnaethid gàn y gènad; ond yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. A gwedi myned o honynt drwy y warchodfa gyntaf a’r ail, hwy á ddaethant at y porth haiarn, sydd yn arwain i’r ddinas; yr hwn á agorodd iddynt o hono ei hun. A gwedi iddynt fyned allan, hwy á aethant drwy un heol, ac yn ddisymwth y gènad á ymadawodd oddwrtho. A Phedr wedi dyfod ato ei hun, á ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei gènad, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddwrth holl ddysgwyliadau y bobl Iuddewig. A gwedi ymbwyllo, efe á ddaeth at dŷ Mair, mam Iöan, yr hwn á gyfenwid Marc; lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddio.
13-20A fel yr oedd Pedr yn curo wrth ddrws y rhagborth, aeth morwyn, a’i henw Rhoda, i ofyn pwy oedd yno. A phan adnabu hi lais Pedr, nid agorodd hi y porth gàn lawenydd: ond wedi rhedeg i fewn, hi á fynegodd iddynt, bod Pedr yn sefyll wrth y porth. Hwythau á ddywedasant wrthi, Yr wyt ti gwedi gwallgofi: hithau á daerodd yn ëon, mai felly yr oedd. Yna y dywedasant hwy, Ei angel ef ydyw. Ond Pedr á ddaliodd i guro; a gwedi iddynt agoryd y drws, hwy á’i gwelsant ef, ac á sỳnasant. Ac efe á amneidiodd arnynt â’i law i fod yn ddystaw; ac á adroddodd iddynt pa wedd yr arweiniasai yr Arglwydd ef allan o’r carchar. Ac efe á ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr: a gwedi iddo ymadael, efe á aeth i le arall. A chygynted ag yr aeth hi yn ddydd, bu terfysg nid bychan yn mhlith y milwyr, beth á ddaethai o Bedr. A Herod wedi chwilio am dano, a heb ei gael, á holodd y ceidwaid, ac á orchymynodd eu dwyn hwynt ymaith iddeu dienyddu. A gwedi myned o hono i waered o Iuwdea i Gaisarea, efe á arosodd yno. Ac yr oedd efe yn llidiog iawn yn erbyn y Tyriaid a’r Sidoniaid; hwythau á ddaethant yn unfryd o’i flaen ef; a gwedi ennill ewyllys da Blastus, ystafellydd y brenin, hwy á ddeisyfasant heddwch; am fod eu gwlad hwy yn cael ei chynnaliaeth o wlad y brenin.
21-25Ac ár ddydd penodedig, Herod, wedi ei wisgo â breninwisg, ac yn eistedd àr yr orseddfainc, á areithiodd wrthynt. A’r bobl á floeddiodd, Llèferydd duw, a nid yr eiddo dyn ydyw! Ond yn ddiannod cènad i’r Arglwydd á’i tarawodd ef, am na roisai ogoniant i Dduw: a chàn bryfed yn ei ysu, efe á drengodd. A gair Duw á gynnyddodd ac á amlâodd. A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gweinidogaeth, á ddychwelasant o Gaersalem; gàn ddwyn gyda hwynt Ioan, yr hwn á gyfenwid Marc.
Dewis Presennol:
Gweithredoedd 12: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.