A phan oedd Herod àr fedr ei ddwyn ef allan, y nos hòno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a’r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. Ac, wele, cènad i’r Arglwydd á safodd gerllaw, a goleuni á ddysgleiriodd yn y tŷ; a gwedi iddo daro Pedr àr ei ystlys, efe á’i deffroes ef, gàn ddywedyd, Cyfod yn uniawn: a’i gadwynau ef á syrthiasant oddwrth ei ddwylaw. A dywedodd y gènad wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau; ac efe á wnaeth felly. Ac efe á ddywedodd wrtho, Tafl dy fantell am danat, a chanlyn fi. A gwedi myned allan, efe á’i canlynodd ef; ac efe nis gwyddai mai gwir oedd yr hyn à wnaethid gàn y gènad; ond yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. A gwedi myned o honynt drwy y warchodfa gyntaf a’r ail, hwy á ddaethant at y porth haiarn, sydd yn arwain i’r ddinas; yr hwn á agorodd iddynt o hono ei hun. A gwedi iddynt fyned allan, hwy á aethant drwy un heol, ac yn ddisymwth y gènad á ymadawodd oddwrtho. A Phedr wedi dyfod ato ei hun, á ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o’r Arglwydd ei gènad, a’m gwared i allan o law Herod, ac oddwrth holl ddysgwyliadau y bobl Iuddewig. A gwedi ymbwyllo, efe á ddaeth at dŷ Mair, mam Iöan, yr hwn á gyfenwid Marc; lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddio.
Darllen Gweithredoedd 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Gweithredoedd 12:6-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos