A’r rhai, yn wir, à wasgarasid o herwydd y cyfyngder à gododd yn nghylch Stephan, á dramwyasent hyd yn Phenice, a Chyprus, ac Antiochia, heb lefaru y gair wrth neb ond Iuddewon yn unig. Er hyny rhai o honynt, a hwy yn wŷr o Gyprus, a Chyrene, gwedi dyfod o honynt i Antiochia, á lefarasant wrth y Groegiaid, gàn gyhoeddi y Newydd da am yr Arglwydd Iesu. A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt, a nifer mawr á gredodd ac á droes at yr Arglwydd. A’r gair am danynt hwy, á ddaeth i glustiau y gynnulleidfa, oedd yn Nghaersalem; a hwy á ddanfonasant Farnabas, i fyned hyd Antiochia. Yr hwn, pan ddaeth, a gweled rhad Duw, á fu lawen ganddo, ac á gynghorodd bawb o honynt, drwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd; oblegid yr oedd efe yn wr da, ac yn llawn o’r Ysbryd Glan, ac o ffydd: a nifer mawr á chwanegwyd at yr Arglwydd. Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul; a gwedi iddo ei gael, efe á’i dyg i Antiochia. A bu iddynt, flwyddyn gyfan, ymgynnull gyda ’r gynnulleidfa, a dysgu pobl lawer; a galwyd y dysgyblion yn Gristionogion yn gyntaf yn Antiochia. Ac yn y dyddiau hyny daeth proffwydi o Gaersalem i waered i Antiochia. Ac un o honynt, a’i enw Agabus, á gyfododd, ac á arwyddodd drwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl dir: yr hwn á fu yn nyddiau Clawd. A’r dysgyblion á benderfynasant fod iddynt, bob un yn ol ei allu, ddanfon cymmhorth i’r brodyr, oedd yn preswylio yn Iuwdea. A hyny á wnaethant, gàn ei ddanfon at yr henuriaid, drwy law Barnabas a Saul.