Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mica 1

1
PENNOD I.
1Gair Iehofa, yr hwn a ddaeth at Mica y Morasthiad, yn
nyddiau Iotham, Achas, Hesecia, breninoedd Iowda, yr
hwn a welodd am Samaria ac Ierusalem, —
2Gwrandewch bobloedd, — bawb o honynt;
Clyw, wlad, ïe, oll sydd ynddi;#1:2 Yn lythyrenol, “ei llawnder.” Nid y ddaear, sef y byd, a feddylir, ond gwlad Canaan, fel y dangos yr hyn a ganlyn — “yn eich erbyn.” “Bydd, ïe yr Arglwydd” &c, dyma’r hyn yr oeddent i wrandaw. Gwahodd yr holl lwythau, “y bobloedd;” ac er eu cynhyrfu yn fwy, enwa y wlad a’r hyn oll a gynnwysai: yr oeddent oll i ystyried fod Duw yn dyst i’w herbyn. Yna darluniai yr hyn yr oedd Duw ar wneuthur yn yr adnodau a ganlynant.
Bydd, ïe, yr Arglwydd Iehofa yn eich erbyn yn dyst —
Yr Arglwydd o deml ei sancteiddrwydd:
3Canys wele Iehofa a ddaw allan o’i le;
Ië, disgyn a cherdda ar uchelfanau ’r wlad;
4A thawdd y mynyddoedd tano,
A’r glynoedd a ymholltant;
Fel cŵyr o flaen y tân,
Fel gan ddyfroedd yn rhuthro ar orwaered.#1:4 Mae y pedair llinell hyn yn ol y drefn a ganfyddir yn aml yn y prophwydi; mae y gyntaf a’r drydedd yn perthyn i’w gilydd, a’r ail a’r bedwaredd: tawdd y mynyddoedd fel cwyr, ac ymhollta’r glynoedd fel gan ddyfroedd a ddisgynant o serthle.
5Am drosedd Iacob y bydd hyn oll,
Ac am bechod tŷ Israel.
Beth yw trosedd Iacob? onid Samaria?
A pheth yw pechod#1:5 Felly y dylai fod, yn unol â’r Septuagint, y Targum a’r Syriac. “Trosedd Iacob” oedd eilun-addoliaeth, a Samaria oedd y ffynnonell, a “phechod Iowda” oedd addoli y gau-dduwiau a’r gwir Dduw ynghyd; a gwreiddyn y drwg oedd yn Ierusalem. Penaethiaid, yr uchelradd a’r dysgedig, ydynt yn gyffredin yn blaenori mewn cyfeiliornadau. Gellid cyfieithu y geiriau fel hyn, — P’le mae trosedd Iacob? onid yn Samaria? A p’hle mae pechod Iowda? onid yn Ierusalem? Iowda? onid Ierusalem?
6Am hyny gwnaf Samaria yn garnedd y maes,
Yn blanigfaoedd gwinllan;
A pharaf dreiglo i’r dyffryn ei cheryg,
A’i sylfeini a ddadguddiaf:
7A’i holl gerf-ddelwau a ddryllir,
A’i holl wobrau a losgir yn y tân,
A’i holl eilunod a wnaf yn ddifrod;
Gan mai o wobr putain y casglodd hwynt,
Yn wobr putain hefyd y dychwelant.#1:7 Sef yr eilunod, a oreurid; am hyny yn werthfawr. Y cerf-ddelwau a wnaed o goed, a llosgid y rhai’n; ond yr eilunod a orchuddid âg aur neu arian, a gaent eu difrodi neu anrheithio. Casglwyd hwynt, sef yr eilunod, trwy buteinio, neu eilun-addoli. Mae eilun-addolwyr bob amser yn hael iawn yn y gwaith o addurno eu heilunod. Ond byddai gwobrau puteindra i ddychwelyd er cynnal puteindra ymhlith eu gelynion — y Ninifeaid.
8O herwydd hyn gwnaf iddi alaru ac udo,
Paraf iddi gerdded yn ddiosgedig ac yn noeth,
Gwnaf iddi alaru fel môrfilod,
Ac wylo fel estrysiaid:#1:8 Mae y perwyddiad yma yn y cyflwr achosawl (hiphil): yn ol yr ystyr hyn y mae y Septuagint, y Targum a’r Syriac. Nid yw yr ystyr arall yn cydweddu â’r hyn sy’n canlyn. “Môrfilod,” — tybir mai y dolphins a feddylir, gan y gwnant ‘pan eu delir’ gwynfan tra alaethus. “Estrysiaid,” — yn llythyrenol, “merched yr estrys.” Dywed haneswyr y gwna y rhai’n alaeth hynod gyffrous ar amserau yn y nos.
9Canys anaele fydd ei dyrnod;#1:9 “Dyrnod” oedd y farn a ddaeth arni trwy frenin Assyria, pan ei caethgludid. A dyrnod oedd a ddaeth yn agos iawn i Iowda; prin y diangodd. Gwel Esay 36 a 37.
Yn ddiau y daw hyd at Iowda,
Gan nesau hyd at borth fy mhobl,
Hyd at Jerusalem.
10Yn Gath na fynegwch hyn,
Gan wylo na wylwch;#1:10 Nid oeddent i fynegu barn Duw ar y bobl i’w gelynion, y Philistiaid, nac i ddangos yn gyhoedd eu galar. Yna canlyn yr hyn a ddygwyddai iddynt pan ddaethai Sennacherib brenin Assyria i ymosod ar wlad Iowda, gwedi goresgyn a chaethgludo gwlad Israel. “Saphir” a gai fyned ymaith i gaethiwed, “yn noeth” neu yn amlwg ei “gwarth.” Ni ddeuai “Sanan” allan i alaru o’i herwydd gan ofn y gelyn, na chwaith “tŷ Asel.” Yspeilid “Maroth” oedd agos i Ierusalem, a dyhoenai am y pethau a gollasai. “Lacis,” er dianc rhag y gelyn, a rwymai y cerbyd wrth y march buan, a rhoddai anrhgeion i Moreseth-Gath er ei choleddu. “Tai” neu drigolion “Acsib” a droent yn anffyddlawn i Israel ac i Iowda. “Morasa,” a arwydda etifeddiaeth, oedd i gael ei pherchenogi gan y gelyn, megys pe buasai yn etifedd iddi; a deuai yr etifedd hwn i Adulam, a gyfrifid yn ogoniant i Israel. Yr oedd y lleoedd hyn oll yng ngwlad Iowdea: ac y mae cyferbyniad yn yr hyn a arwyddoca amryw o’r enwau a’r hyn a ddywedir amdanynt. “Ophra” yw llwchfan; yr oedd i ymdreiglo mewn llwch: “Saphir” yw lle teg neu brydferth; deuai ei “gwarth” yn amlwg: “Sanan” yw mynediad allan, ond nid oedd i fyned allan. “Asel” a arwydda agos; yr oedd i ddilyn yr hyn a wnaethai Sanan oedd yn agos iddi. “Maroth” yw chwerw; dihoenai am golledion a fyddai yn chwerw. Mae cyd-lythreniad yn yr Hebraeg rhwng y “buan-farch” a “Lacis.” Gan mai etifeddiaeth a arwyddai “Morasa,” deuai “etifedd” i’w pherchenogi.
Yn nhŷ Ophrah mewn llwch ymdreigla;
11Dos erddot ymaith breswylferch Saphir,
Yn noeth dy warth;
Na aed allan breswylferch Sanan gan alaru;
Tŷ Asel, cymered genych ei sefyllfan:
12Diau dihoena am dda breswylferch Maroth,
Canys disgyn ddrwg oddiwrth Iehofa hyd borth Ierusalem;
13Rhwymed wrth y cerbyd
Y buan-farch, breswylferch Lacis;
Dechreuad pechod fu hi i ferch Sïon,
Canys ynot y cafwyd troseddiadau Israel;
14Am hyny y rhoddi anrhegion i Moreseth-Gath;
Tai Acsib, yn gelwydd fyddant i freninoedd Israel.
15Eto etifedd a ddygaf i ti, preswylferch Moresa;
Daw ef hyd Adulam, gogoniant Israel.
16Ymfoela ac eillia am blant dy hoffderau;
Ymhelaetha dy foelni fel yr eryr,
O herwydd mudwyd hwynt oddiwrthyt.#1:16 Samaria a feddylir, ac nid Morasa. “Fel yr eryr,” sef pan y byddo yn colli ei phluf, yr hyn a ddygwydd iddi bob blwyddyn.

Dewis Presennol:

Mica 1: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda