Iago 5
5
PEN. V.
1Clywch yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich mawr drueni#5:1 Mae’r gair yn y rhif lïosog: arwydda mawr neu amryw drueni. a ddaw arnoch. 2Pydra eich cyfoeth, a bwytëir eich gwisgoedd gan bryfed; 3rhyda eich aur a’ch arian, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, a difa eich cnawd fel tân:#5:3 Enwa dri math o feddiannau — “cyfoeth,” ŷd — “gwisgoedd,” dillad — “arian ac aur.” casglwch drysor erbyn y dyddiau diweddaf. 4Wele cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meusydd, yr hwn a gamattaliwyd#5:4 Neu, “a dwyll-dreiswyd genych:” yr oeddent trwy rwy hoced ddichellgar yn amddifadu y gweithwyr o’u cyflog, ac nid trwy omedd yn gyfangwbl eu talu. genych, llefain y mae; ac aeth dolefau y medelwyr i fyny i glustiau Arglwydd y lluoedd.#5:4 Yr oedd dwy lef yn esgyn i’r nefoedd — llef y gyflog, a llef y medelwyr.
5Buoch yn gloddestu ar y ddaear ac yn ymdrythyllu; meithrinasoch eich calonau;#5:5 Sef eich hunain. “Dydd y lladdfa” oedd dydd yr uchelwyl, pan aberthai yr Iuddewon, yn ôl eu defod, lawer o aberthau, ac y gloddestent yn fwy nag arferol; ond gwnai hyn y rhai y cyfeirir atynt yn feunyddiol. fel ar ddydd y lladdfa: 6collfarnasoch, lladdasoch y cyfiawn;#5:6 Sef, trwy orthrymder. Yr un peth a feddylir ag yn nechreu y bedwaredd bennod. ni wrthwynebai chwi.
7Am hyny, frodyr, byddwch ymarhöus#5:7 Neu, hir amyneddgar. hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele dysgwyl y llafurwr am ffrwyth gwerthfawr y ddaear, gan fod yn ymarhöus yn ei gylch, nes y derbynio y gwlaw cynnar a’r diweddar. 8Byddwch chwi hefyd yn ymarhöus; cadarnhewch#5:8 Neu, sefydlwch, dianwadalwch, fel na byddant yn cyfnewid neu yn symud o’u lle. eich calonau, oblegid dyfodiad yr Arglwydd sydd yn nesâu.
9Na rwgnechwch,#5:9 Yn llythyrenol, “na riddfanwch,” fel ag i chwennych dial ar y rhai a’u gormesent. Attodiad LNa rwgnechwch, &c. Brodyr oeddent eu gormeswyr, megys yr ymladdwyr a noda yn y bennod flaenorol. Mae camsyniad mawr yn gyffredin ynghylch yr Eglwys Apostolaidd a chyntefig. Ymdaenwyd y camsyniad hwn gyntaf gan Babyddion, a chafodd ei barhâu gan amryw o Brotestaniaid. Sylwer ar y pethau a ddywedir gan Iago, Pedr a Iudas, a diflana y camsyniad hwn. Gwaith coelgrefydd yw saintioli dynion y cynoesoedd. frodyr, yn erbyn eich gilydd, fel na’ch barner: wele y Barnwr, saif wrth y drws. 10Cymerwch yn gynllun, fy mrodyr, o ddyoddef adfyd ac o hirymaros, y prophwydi, a lefarasant yn enw yr Arglwydd. 11Wele dedwydd y cyfrifwn y rhai a ddyoddefant: clywsoch am amynedd Job, a gwelsoch ei ddiwedd gan yr Arglwydd:#5:11 Sef y diwedd a roddodd yr Arglwydd iddo: cyfeiria at y llwyddiant a rodded iddo ar ddiwedd ei oes. oblegid trathosturiol a thrugarog yw yr Arglwydd. 12Ond yn enwedig, fy mrodyr, na thyngwch,#5:12 Hynny yw, mewn siarad neu ymddyddan cyffredin: arferiad drwg ymhob oes, yn awr fel cynt. Mae cymhwyso hyn at lwon difrifol er terfynu dadleu, yn hollol anghywir. na thrwy’r nef, na thrwy’r ddaear, na thrwy un llŵ arall; ond bydded eich ïe yn ïe, a’ch nage yn nage, fel na syrthioch tan farn.
13A oddef neb adfyd yn eich plith? gweddïed; a oes neb yn llawen? caned;#5:13 Hyn yn unig yw ystyr y gair: ni ddylid chwanegu y gair “Salmau.” 14ai claf neb yn eich plith? galwed am henuriaid yr eglwys, a gweddïant drosto, gan ei eneinio âg olew yn enw yr Arglwydd; 15a gweddi y ffydd#5:15 Sef ffydd wyrthiol. a achub y clwyfus, a chyfyd yr Arglwydd ef; ac os y gwnaeth bechodau, maddeuir iddo.
16Cyfaddefwch gamweddau#5:16 Y rhai a wnaent â’u gilydd. Ymwelid y rhai’n â barnau yn gystal â’r rhai a wnaed yn erbyn Duw. Attodiad LlCyfaddefwch , &c. Mae hyn yn hollol wahanol oddiwrth yr hyn a gynnwysir yn yr adnod flaenorol. Nid oes eneinio na gweddi ffydd wyrthiol yma, ond gweddi daer y cyfiawn. Addewir llwydd yn yr achos blaenorol, ond yma “llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.” i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel yr iachäer chwi: llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn. 17Elias oedd ddyn o gyffelyb wendid â ninnau,#5:17 Sef i’r un diffygion dynol, ac yn agored i’r un preofedigaethau: nid angel oedd, neu ddyn perffaith, ond un fel ninnau. a chan weddïo gweddïodd#5:17 Ffurf Hebareg o lefaru, yn dangos taerineb; taer weddïodd. Attodiad Mdair blynedd a chwe’ mis. Felly y cawn hefyd yn Luc 4:25 Ni sonir yn bendant am y blynyddau yn yr Hen Destament; ond dywedir yn 1 Bren, 18:1, am “y drydedd flwyddyn,” nid o’r amser y prophwydodd Elias na fyddai wlaw, ond o’r amser yr aethai o Sarephtah; 1 Bren. 17:9. na wlawiai; ac ni wlawiodd ar y wlad#5:17 Gwlad Israel. dair blynedd a chwe’ mis; 18a gweddïodd drachefn, a rhoddodd y nef wlaw, a dygodd y ddaear ei ffrwyth.
19Frodyr, os gwyra#5:19 Yn hytrach na “chyfeiliorni,” gan y ffordd y dywedir am dani. — “Cuddiai liaws o bechodau” yn yr un ystyr ag yr achubai enaid rhag marwolaeth, sef yn offerynnol. Cuddio pechhod yw ei faddeu. Byddai yn offerynnol tuag at i’r troëdig gael maddeuant o; i amrywiol bechodau. neb yn eich plith oddiwrth y gwirionedd, a throi o neb ef, 20gwybydded y gwna yr hwn a dry bechadur oddiwrth ŵyrni ei ffordd, achub enaid rhag marwolaeth a chuddio llïaws o bechodau.
Dewis Presennol:
Iago 5: CJO
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.