Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 3

3
PEN. III.
1Na fyddwch athrawon#3:1 Neu ddysgawdwyr, nid “meistriaid.” Gesyd yr Apostol ei hun fel un o honynt, “y derbyniwn,” &c. lawer, fy mrodyr, gan wybod y derbyniwn farnedigaeth fwy; 2canys mewn llawer o bethau y tramgwyddwn oll. Os na thramgwydda neb ar air,#3:2 Mewn ymddyddan, neu wrth bregethu, neu gynghori, neu geryddu eraill. “Perffaith,” megys un mewn cyflawn oed, yn gristion mewn llawn oedran; nid yn ieuanc, ond wedi dyfod i’w lawn faintioli. hwn sydd ŵr perffaith, yn gallu ffrwyno, ïe, ei holl gorff 3Wele, rhoddwn ffrwynau yn mhenau y meirch,#3:3 Yn ei nwydau a’i chwantau. fel yr ufuddhäont i ni, ac y troffom oddiamgylch eu holl gorff.#3:3 Yn llythrennol, “yng ngenau y ceffylau:” Ond yr ymadrodd Cymraeg yw “ym mhenau y meirch.” 4Wele hefyd y llongau, er mor fawr ydynt ac y gyrer hwynt gan wyntoedd gerwin, eto tröir hwynt oddiamgylch gan lyw tra bychan, ple bynag y myno’r llywydd. 5Felly hefyd y tafod, aelod bychau yw, ond mawr ymffrostia. Wele ychydig dân, pa faint o danwydd#3:5 Neu, “o goed.” a ennyn! 6A’r tafod, tân ydyw, byd o ddrygedd! Felly y tafod a osodwyd ymhlith ein haelodau; haloga yr holl gorff, a ffagla gylchedd anian,#3:6 Sef anian trwyddi, pob rhan o honi, pob cynneddf a berthyn iddi, “yr holl gorff,” adn. 2 “Ffagla,” neu fflamia. “Uffern” a arferir am ei phreswylydd, Diafol, megys y defnyddir nefoedd am Dduw. ac a ffaglir gan uffern.
7Pob math yn wir o wylltfilod ac o adar, o ymlusgiaid hefyd ac o fôrfilod, a ddofir ac a ddofwyd gan ddynol ryw; 8ond y tafod, ni ddichon neb dynion ei ddofi; drwg anllywodraethus#3:8 Neu, anattaliadwy, nad ellir ei gadw o fewn terfynau. yw, yn llawn o wenwyn marwol. 9Ag ef y bendithiwn Dduw a’r Tad; 10âg ef hefyd y melldithiwn ddynion a wnaed ar ddelw Duw; o’r un genau y daw allan fendith a melldith! Ni ddylai, fy mrodyr, y pethau hyn fod felly. 11A ydyw ffynnon o’r un llygad yn taflu allan y melus a’r chwerw? 12A ddichon ffigysbren, fy mrodyr, ddwyn grawn olew-wydd, neu winwydden, ffigys? Felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroew.
13Pwy sydd ddoeth a deallus#3:13 Tuag at fod yn ddoeth, rhaid bod yn ddeallus; gosodir yr effaith o flaen yr achos, fel y gwneir yn aml. yn eich plith? dangosed trwy ymarweddiad da ei weithredoedd mewn addfwynder doethineb.#3:13 Addfwynder a gymeradwya ddoethineb, ac a dardd oddiwrthi. 14Ond os cenfigen chwerw a chynhen#3:14 Cynhen a genedla genfigen chwerw. Cenfigen chwerw a enwir yn gyntaf, ac yna yr hyn a arwain iddi, megys “doeth” ond “deallus” yn adn. 13. ydynt genych yn eich calon, na wnewch ymffrostio#3:14 Sef eu bod yn ddoethion. a chelwyddu yn erbyn y gwirionedd. 15Nid yw y ddoethineb hon yn disgyn oddiuchod; ond daearol yw, anianol a dieflig:#3:15 “Daearol,” y cyfryw ag sydd gan y rhai a garant y byd a’i bethau, — “Anianol,” yr hyn sydd yn ol anian dyn llygredig. — Dieflig, yn perchenogi o ysbryd y Diafol ei hun, a genedla genfigen a chynhen. 16canys lle mae cenfigen a chynhen, yno y mae annhrefn a phob gwaith drwg. 17Ond y ddoethineb oddiuchod sydd gyntaf yn bur,#3:17 Heb gymysgedd o genfigen. yna yn heddychlon,#3:17 Yn caru ac yn ceisio heddwch. yn fwynaidd,#3:17 Yn llythyrenol, yn ymollyngol, hyny yw, parod i faddeu troseddau. yn hawdd ei thrin,#3:17 Yn ddarbwyllog, tan sarhâd neu gynhyrfiad. yn llawn o drugaredd#3:17 Tuag at y rhai trallodus. ac o ffrwythau da,#3:17 Gweithredoedd cymwynasgar a haelionus. yn ddiduedd, ac yn ddiragrith: 18o herwydd ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch gan y rhai a wnant heddwch.#3:18 Gwel Attodiad F. “cyfiawnder” yma a gyfeiria at y ddau air blaenorol, “diduedd,” heb ochri at neb mewn dadl, a “diragrith,” heb ymddwyn yn anonest tuag at un ochr, heb wenieithio i neb. Dyma’r cyfiawnder, yr hwn ei ffrwyth a heuir mewn heddwch, nid mewn cynhwrf neu gynhen. Y ffrwyth a ddaw o ymddygiad cywir a chyfiawn, heb ochri neb, heb wenieithio i neb, a heuir mewn heddwch gan y rhai a wnant heddwch neu a weithredant yn heddychlawn. Dyma’r modd i iawn ymddwyn yn ddiduedd ac yn ddiragrith; rhaid bod ysbryd heddychlawn yn cydfyned â’r ymddygiad hwn. Nid yw yr egluriadau a roddir yn gyffredin yn foddlonol.

Dewis Presennol:

Iago 3: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda