Iago 2
2
PEN. II
1Fy mrodyr, onid yw genych ffydd ogoneddus#2:1 Yn llythyrenol, “ffydd gogoniant,” megys “gwrandawr anghofiant” yn lle “gwrandawr anghofus” yn pen. 1:25. Attodiad Eonid yw , &c.? Cydwedda gofyniad yn well â’r hyn a ganlyn, “Oblegid,” &c. “Ffydd ogoneddus” yw “efengyl ogoneddus;” a gelwir hi yn aml ffydd, gan y cynnwys yr hyn sydd i’w gredu, gan mai ffydd a wna ofyn, a ffydd a dderbyn, ei rhoddion. Gellir hefyd gysylltu “gogoneddus” â’n Harglwydd Iesu Grist, — “Ffydd ein gogoneddus Arglwydd Iesu Grist.” Yn llythyrenol, “Ffydd gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist:” ond arferir “gogoniant” yma, yn ol arfer yr Hebraeg, yn lle “gogoneddus.” ein Harglwydd Iesu Grist gyda derbyn wyneb? 2Oblegid os daw i mewn i’ch cynnulleidfa ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, ac y daw i mewn hefyd un tlawd mewn dillad gwaelion, 3ac edrych o honoch arno ef a wisga ddillad gwychion, a dywedyd wrtho, “Eistedd di yma mewn lle da,” a dywedyd wrth y tlawd, “Saf di yna,” neu, “Eistedd yma o tan fy nhroedfainc;” 4yna oni wnewch wahaniaeth ynoch eich hunain,#2:4 Sef yn eich meddwl eich hun. ac y deuwch yn farnwyr â meddyliau drwg#2:4 “Drwg,” anghywir, gwyredig, llygredig: yn llythyrenol, “yn farnwyr o feddyliau drwg,” neu o syniadau amryfus, sef trwy farnu yn unig wrth yr agwedd allanol. genych? 5Gwrandewch, fy mrodyr anwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hwn a addawodd i’r rhai a’i carant? 6Ond chwi, anmharchasoch y tlawd. Oni wna’r cyfoethogion eich gorthrymu,#2:6 Neu eich gormesu: y rhai a dra arglwyddiaethent arnynt. a’ch tynu ger bron brawdleoedd? 7oni chablant yr enw da a elwir arnoch?
8Os yn wir y cyflawnwch y ddeddf freninol,#2:8 “Breninol,” o herwydd ei rhagoroldeb, neu gan ei rhoddid gan Dduw, y Brenin penadurol. yn ol yr Ysgrythyr, “Câr dy gymydog fel dy hun,” da y gwnewch. 9Ond os y derbyniwch wyneb, pechod a wnewch, gan yr argyhoeddir chwi gan y ddeddf megys troseddwyr. 10Canys y neb a gadwo’r ddeddf oll, ond a dramgwyddo mewn un rhan, euog yw o’r cyfan. 11Oblegid yr hwn a ddywedodd, “Na odineba,” a ddywedodd hefyd, “Na ladd;” ac os ni odinebi, ond eto a leddi, troseddwr wyt o’r ddeddf. 12Felly dywedwch ac felly gwnewch, fel y rhai a fernir wrth ddeddf rhyddid. 13Oblegid barn ddidrugaredd a fydd i’r hwn ni wna drugaredd: ond gorfoledda trugaredd yn erbyn barn.#2:13 Sef, i’r rhai a wnânt drugaredd.
14Pa fodd, fy mrodyr, os dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei achub? 15Oblegid os bydd brawd neu chwaer yn noeth ac mewn eisieu o ymborth beunyddiol, 16ac os dywed neb un o honoch wrthynt, “Ewch ymaith mewn heddwch; cynheser a digoner chwi,” ac heb roddi o honoch iddynt o anghenrheidiau’r corff, pa fudd yw? 17Felly hefyd ffydd, os na fydd ganddi weithredoedd, marw yw, pan wrthi ei hun.
18Ond dywed rhyw un, “Mae genyt ti ffydd, a chenyf finnau weithredoedd; dangos i mi dy ffydd heb dy weithredoedd, minnau a ddangosaf i ti fy ffydd trwy fy ngweithredoedd.#2:18 Dengys hyn feddwl Iago, pan ddywed, y cyfiawnhëir dyn trwy neu gan weithredoedd, sef bod gweithredoedd yn dangos ffydd, yn brawf o honi. Ffydd fyw a gweithiol, ac nid ffydd farw, ddiwaith, sy’n cyfiawnhâu, ac felly yn achub yr enaid. 19Ti a gredi fod un Duw, da y gwnai; creda y cythreuliaid hefyd a chrynant.” 20Ond a fyni di wybod, O ddyn ofer, fod ffydd heb weithredoedd yn farw?
21Abraham ein tad, oni chyfiawnhäwyd ef gan weithredoedd, pan offrymodd Isaac ei fab ar yr allor? 22Gweli y cydweithiai ffydd â’i weithredoedd,#2:22 Neu, “y cynnorthwyai ffydd ei weithredoedd,” fel y dywed Paul yn Rhuf. 4:18-20 a thrwy weithredoedd y perffeithid ffydd.#2:22 Sef, y gwnelid ffydd yn gyflawn, ac yr amlygid ei bod yn wir ffydd: gweithredoedd a ddangosant hyn. 23Cyflawnid hefyd yr Ysgrythyr a ddywed, “Credodd Abraham Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder;” a gelwyd ef yn gyfaill Duw. 24Gwelwch ynte mai trwy weithredoedd y cyfiawnhëir dyn,#2:24 Hyny yw, yr amlygir ef yn gyfiawn. Felly yw ystyr y gair yn 1 Tim. 3:16, “A gyfiawnhäwyd yn (neu, gan) yr Ysbryd,” sef, amlygwyd neu a gyhoeddwyd yn gyfiawn gan yr Ysbryd. Cymerir y gair yn ei ystyr Hebrëaidd. Nid oes gweithredoedd heb ffydd, ac nid oes ffydd heb weithredoedd, sef gwir ffydd. ac nid trwy ffydd yn unig.
25Yr un modd hefyd Rahab y butain, onid trwy weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan y derbyniodd y cenadon ac y danfonodd hwynt ymaith ffordd arall?
26Oblegid fel ag y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
Dewis Presennol:
Iago 2: CJO
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.