Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 4

4
PEN. IV.
1Yna gan i Grist ddyoddef trosom yn y cnawd,#4:1 Gwedi troi megys o’i lwybr yn adn. 19 o’r bennod ddiweddaf, dychwel yn awr at y peth oedd ganddo mewn llaw, y cynulliad a roddodd Crist o ddyoddef yn anhaeddiannol. Attodiad U. Bwriad, sef o ddyoddef. Dyoddefodd Crist hyd angeu, cafodd ei farwolaethu, neu, ei roi i farwolaeth; ond er cysur i ddyoddefwyr, dywed yr Apostol iddo gael ei fywhâu gan yr Ysbryd. Felly y dywed yn adn. 6, y caiff y rhai a gollfernir gan ddynion yn y byd. arfoger chwi hefyd â’r un bwriad: oblegid yr hwn a ddyoddefodd yn y cnawd#4:1 Sef trwy erlidigaeth: nid yw mwyach yn arwain bywyd pechadurus. Mae ysgariaeth wedi cymeryd lle rhyngddo â phechod. a beidiodd â phechod, 2fel na byddo fyw mwyach, dros yr amser sydd yn ol yn y cnawd, i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw. 3Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’n bywyd i weithredu ewyllys y cenedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwant, gloddest, cyfeddach, dïota, ac eilunaddoliad ananianol.#4:3 Mae y geiriau hyn oll yn y rhif lïosog; ond gan na arferir y rhan fwyaf o honynt felly yn y Gymraeg, rhoddir hwynt oll yn y rhif unigol. Ananianol, croes i anian: cyfeiria at y pethau budreddus a chreulawn a arferid gan eilunaddolwyr, megys puteinio ac aberthu dynion a phlant. 4O herwydd hyn y synant, sef, am na chydredwch â hwynt i’r unrhyw ormodedd o afradlondeb, gan eich difenwi; 5y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu y byw a’r meirw. 6Canys er mwyn hyn yr efengylwyd hefyd i’r meirw,#4:6 Y rhai a fuont farw tan erledigaeth. Fel y barned, neu y collfarned hwynt gan erlidwyr o ran y corff; ond cânt eu bywhau yn y dydd diweddaf gan yr Ysbryd. Attodiad WY dyben o bregethu’r efengyl i’r rhai a fuont farw tan erlidigaeth, sydd yn ymddangos yn hynod. Ond cofier yr hyn a ddywed yr Apostol yn pen. 2:21, “I hyn y galwyd chwi,” sef i ddyoddef. Fel hyn y dygwyddai iddynt yr hyn a ddygwyddodd i’w Harglwydd. Adfywio, neu fywhâu, sydd yn ol ystyr yr Hebraeg. fel y barned hwynt gan ddynion yn y cnawd, ac adfywier hwynt gan Dduw trwy yr Ysbryd.
7Ond diwedd pob peth a nesäodd:#4:7 Gelwir dyddiau’r efengyl yn ddyddiau diweddaf: gan hyny, nesâu wna diwedd pob peth. Gwel 2 Pedr 3:8-14. Heblaw hyn golygir angeu a barn yn yr Ysgrythyr yn gydamserol, gan na chymer un cyfnewidiad le rhyngddynt. am hyny byddwch gymedrol a gwyliwch i weddïo. 8Ac uwchlaw pob dim, bydded genych gariad gwresog tuag at eich gilydd, o herwydd cuddia cariad liaws o bechodau.#4:8 Trwy eu maddeu. Maddeuant a rydd y naill i’r llall a feddylir. “Maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ni i’n dyledwyr.” 9Byddwch lettygar y naill i’r llall heb rwgnach.
10Pob un, megys y derbyniodd rodd, gweinyddwch yr un y naill i’r llall, fel da#4:10 Nid daionus, ond da, sef ffyddlawn. — Oruchwylwyr, neu ddosbarthwyr. oruchwylwyr o rad amrywiol Duw. 11Os llefara neb, llefared megys geiriau Duw; os gweinydda neb, gweinydded megys trwy’r nerth a rydd Duw; fel ymhob dim y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; yr hwn y bo iddo y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.
12Na synwch, anwyliaid, o herwydd y tân cyneuol#4:12 Llythyrenol, “y taniad:” cyffelyba erlidigaeth i dân yn llosgi, gan mor annyoddefol oedd. sydd yn eich plith, yr hwn sydd er eich profi, fel pe dygwyddasai i chwi beth rhyfedd: 13ond gan y cyfranogwch o ddyoddefiadau Crist, llawenhëwch; fel y llawenhäoch hefyd yn orfoleddus ar ddadguddiad o’i ogoniant.#4:13 Neu, “ar ei ogoneddus ddadguddiad.”
14Os gwaradwyddir chwi am enw Crist, dedwydd ydych; oblegid gorphwys arnoch Ysbryd gogoneddus Duw:#4:14 Neu, “y Duw gogoneddus.” ganddynt hwy yn wir difenwir Ef, ond genych chwi Efe a ogoneddir. 15Ond na ddyoddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu ymyrydd;#4:15 Sef mewn pethau gwladol, cynhyrfwr yn y llywodraeth, cyffröwr terfysg yn y wladwriaeth. Yr oedd yr Iuddewon yn enwedig yr amser hyn yn ymyrwyr bron ymhob gwlad. 16ond os fel cristion, na chywilyddied, ond gogonedded Dduw o herwydd hyn; 17canys yr amser yw i’r farn ddechreu ar dŷ Dduw;#4:17 Tebyg y cyfeiria at Ioan 16:2 Gwel hefyd Matth. 24:9-13; Luc 21:14 — Cristionogion a feddylir wrth dŷ Dduw. ac os yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai a anufuddhânt efengyl Duw? 18ac os o braidd yr achubir y cyfiawn,#4:18 Rhag y dinystr oedd yn dyfod ar y genedl Iuddewig. Gwel Luc 21:18, 19, 36. p’le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19Am hyny hefyd traddoded y rhai a ddyoddefant yn ol ewyllys Duw, eu heneidiau iddo Ef megys i Berchenog#4:19 Neu, “Feddiannydd.” Mwy cymhwys i’r lle hwn yw Perchenog na “Chrëawdwr,” gan y dynoda ddiogelwch. Y maent tan nawdd eu perchen ac yn ei feddiant, ac ef yn un ffyddlawn. ffyddlawn, gan wneuthur yr hyn sydd dda.

Dewis Presennol:

1 Pedr 4: CJO

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda