Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mark 7

7
PENNOD VII.
Y Pharisai yn beio y disgyblion, am fwytta heb ymolchi: yn torri gorchymyn Duw trwy draddodiadau dynion. Christ yn iachâu merch y wraig o Syrophenicia oddi wrth yspryd aflan; ac un oedd fyddar, ac ag attal dywedyd arno.
1YNA yr ymgasglodd atto y Pharisai, a rhai o’r ysgrifenyddion a ddaethent o Ierusalem. 2A phan welsant rai o’i ddisgyblion ef â dwylaw cyffredin (hynny ydyw, heb olchi) yn bwytta bwyd, hwy a argyhoeddasant. 3Canys y Pharisai, a’r holl Iuddaion, oni bydd iddynt olchi eu dwylaw yn syber, ni fwyttânt; gan ddal traddodiad yr hynafiaid. 4A phan ddelont o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwyttânt. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymmerasant i’w cadw; megis golchi cwppanau, ac ystenau, ac efyddynau, a gweliau. 5Yna y Pharisai a’r ysgrifenyddion a ofynnasant iddo, Paham nad yw dy ddisgyblion di yn rhodio yn ol traddodiad yr hynafiaid, ond yn bwytta eu bwyd â dwylaw heb olchi? 6Ond Efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, ragrithwŷr, fel y mae yn ysgrifenedig, Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu i a’u gwefusau, ond eu calon sydd yn mhell oddi wrthyf. 7Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddysgu yn ddysgeidiaeth orchymynion dynion. 8Canys, gan adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion; sef golchiadau ystenau a chwppanau, a llawer eraill o’r cyffelyb bethau. 9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwŷch yr ydych yn rhoi heibio gorchymyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain. 10Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dad a’th fam, a’r hwn a rho ddrygair i’w dad neu i’w fam lladder ef yn farw. 11Ac meddwch chwithau, “Os dywed dyn wrth ei dad neu ei fam, Fy rhodd yw y lles y cewch oddi wrthyf fi; difai fydd.” 12Ac nid ydych yn gadael iddo mwyach i wasnaethu ei dad neu ei fam. 13Gan ddirymmu gair Duw a’ch traddodiad, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o gyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur. 14A chwedi galw atto yr holl dyrfa, efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch chwi oll arnaf, a deallwch. 15Nid oes dim allan o ddyn yn myned i mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr pethau sydd yn dyfod allan o hono, y rhai hynny ydynt y pethau sydd yn halogi dyn. 16Od oes gan neb glustiau i wrandaw, gwrandawed. 17A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddisgyblion a ofynasant iddo am y ddammeg. 18Yntau a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddiddeall? Oni wyddoch am bob peth oddi allan a el i mewn i ddyn, na all hynny ei halogi ef; 19Oblegyd nid yw yn myned i’w galon ef, ond i’r bol; ac yn myned allan i’r geudy, gan garthu yr holl fwydydd? 20Ac efe a ddywedodd, Yr hyn sydd yn dyfod allan o galon dyn, hynny sydd yn halogi dyn. 21Canys oddi mewn, allan o galon dynion, y daw drwgfeddyliau, godinebau, putteindra, llofruddiaeth, 22Lladradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwglygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd. 23Yr holl ddrwg bethau hyn ydynt yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn. 24Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig. 25Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag yspryd aflan ynddi, son am dano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef: 26(A Groeges oedd y wraig, Syropheniciad o genedl.) A hi a attolygodd iddo fwrw y cythraul allan o’i merch. 27A’r Iesu a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i’r plant, gael eu digoni: canys nid cymmwys yw cymmeryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon. 28Hithau a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac etto y mae y cenawon dan y bwrdd yn bwytta o friwsion y plant. 29Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dos ymaith; aeth y cythraul allan o’th ferch. 30Ac wedi iddi fyned i’w thŷ, hi a gafodd fyned o’r cythraul allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely. 31Ac efe a aeth drachefn ymaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd lyn Galilaia, trwy ganol terfynau Decapolis. 32A hwy a ddygasant atto un byddar, ag attal dywedyd arno; ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno. 33Ac wedi iddo ei gymmeryd o’r neilldu allan o’r dyrfa, efe a estynodd ei fysedd yn ei glustia ef, ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef; 34A chan edrych tu a’r nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, hynny yw, Ymagor. 35Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattodwyd; ac efe a lafarodd yn eglur. 36Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb; ond pwy fwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. 37A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddair glywed, ac i’r mudion lafaru.

Dewis Presennol:

Mark 7: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda