Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mark 2

2
PENNOD II.
Christ yn iachâu un claf o’r parlys; yn galw Levi, yn bwytta gyd â phublicanod a phechaduriaid; yn esgusodi ei ddisgyblion, am nad unprydient, ac am dynnu y tywys yd ar y dydd sabbath.
1AC efe a aeth drachefn i Kapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod efe yn y tŷ, 2Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghŷd, hyd nid oedd lle, ie, ynghŷlch y drws: ac efe a lefarodd wrthynt. 3A daethant atto, gan ddwyn un claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. 4A chan na allent nesâu atto gan y dyrfa, hwy a ddidoisant y tŷ lle’r oedd; ac wedi iddynt dorri trwodd, gollyngasant i wared y gwely yn yr hwn y gorweddai y claf o’r parlys. 5A phan welodd yr Iesu eu ffydd, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Mab, maddeuwyd i ti dy bechodau. 6Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymmu yn eu calonnau, 7Paham y mae hwn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddeu pechodau, ond Duw yn unig? 8Ac yn ebrwydd, pan wybu yr Iesu yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymmu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedai wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calonnau? 9Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a rhodia? 10Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaear (eb efe wrth y claf o’r parlys) 11Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a dos i’th dŷ, 12Ac yn y man y cyfododd, a cymmerodd i fynu ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, ni welsom ni eriôed fel hyn. 13Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y llyn; a’r holl dyrfa a ddaeth atto; ac efe a’u dysgodd hwynt. 14Ac efe yn myned heibio, a ganfu Lefi fab Alphëus yn eistedd wrth y dollfa, a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef. 15A bu, a’r Iesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyd â’r Iesu a’i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a’i canlynasant ef. 16A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Pharisai ef yn bwytta gyd â’r publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwytta ac yn yfed gyd â’r publicanod a’r pechaduriaid? 17A’r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid wrth feddyg i’r rhai sydd iach, ond i’r rhai cleifion: ni ddaethum i alw y cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch. 18A disgyblion Ioan a’r Pharisai oeddynt yn unprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a’r Pharisai yn unprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn unprydio? 19A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell brïodas unprydio, tra byddo y prïodas-fab gyd a hwynt? tra byddo ganddynt y prïodas-fab gyd â hwynt, ni allant unprydio. 20Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y prïodas-fab oddi arnynt; ac yna yn y dyddiau hynny yr unprydiant. 21Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd a dynn oddi wrth yr hen, a’r rhwyg fydd waeth. 22Ac ni rydd neb win newydd mewn hen grwyn; os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r crwyn, a’r gwin a red allan, a’r crwyn a anafir: eithr raid roi gwin newydd mewn crwyn newyddion. 23A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y sabbath; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu y tywys. 24A’r Pharisai a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnant ar y sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn? 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch eriôed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gyd ag ef? 26Pa fodd yr aeth efe i dŷ Duw, dan Abiathar yr arch-offeiriad, ac y bwyttaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlawn eu bwytta, ond i’r offeiriaid yn unig, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gyd ag ef? 27Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y sabbath a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y sabbath. 28Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y sabbath hefyd.

Dewis Presennol:

Mark 2: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda