Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mark 16

16
PENNOD XVI.
Angel yn mynegi adgyfodiad Crist. Crist ei hun yn ymddangos i Maria Magdalen: i ddau oedd yn myned i’r wlad: yna i’r apostolion, y rhai y mae efe yn eu hanfon allan i bregethu yr efengyl: ac yn esgyn i’r nefoedd.
1AC wedi darfod y dydd sabbath, Maria Magdalen, a Maria mam Iakob, a Salome, a brynasant bêraroglau, i ddyfod i’w enneinio ef. 2Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y bedd, wrth godiad haul. 3A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd? 4(A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith) canys yr oedd efe yn fawr iawn. 5Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd, hwy a welsant fab ieuangc yn eistedd o’r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisg ddisglaur; ac a ddychrynasant. 6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nazareth, yr hwn a groes-hoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele’r man y dodasant ef. 7Eithr ewch ymaith, dywedwch i’w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilaia: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi. 8Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoisant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni. 9A’r Iesu, wedi adgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Maria Magdalen, o’r hon bwriasai efe allan saith o gythreuliaid. 10Hithau a aeth ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gydag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain. 11A hwythau, pan glywsant ei fod ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent. 12Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau o honynt, a hwy yn ymdeithio, ac yn myned i’r wlad. 13A hwy a aethant ac a fynegasant i’r lleill; ac ni chredent iddynt hwythau. 14Ac ar ol hynny efe a ymddangosodd i’r un ar ddeg, a hwy yn eistedd i fwytta; ac a ddannododd iddynt eu hanghrediniaeth, a’u calon-galedwch; am na chredasent y rhai a’i gwelsent ef wedi adgyfodi. 15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. 16Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a fernir. 17A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant; Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; a llefarant â thafodau newyddion. 18Seirph a godant ymaith, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt niwed; ar y cleifion y rhoddant eu dwylaw, a hwy fyddant iach. 19Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i’r nef, ac a eisteddodd ar ddeheu-law Duw. 20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a’r Arglwydd yn cyd weithio, ac yn cadarnhâu y gair trwy arwyddion yn canlyn. Amen.

Dewis Presennol:

Mark 16: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda