Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthaw 27

27
PENNOD XXVII.
Rhoddi Crist yn rhwym at Pilatus. Iudas yn ymgrogi. Pilatus, wedi ei rybuddio gan ei wraig, yn golchi ei ddwylaw. Rhyddhâu mab Abbas, Coroni Crist â drain, a’i groes-hoelio: yntau yn marw: ei gladdu ef. Selio a gwylio ei fêdd ef.
1A GWEDI iddi ddyddhai, cydymgynghorodd yr holl arch-offeiriaid, a henuriaid y bobl, yn ngylch yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. 2Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Pilatus y llywodraethwr. 3Yna pan welai Iudas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gyhuddio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg dryllin ar hugain arian i’r arch-offeiriaid a’r henuriaid, 4Gan ddywedyd, Pechais, gan traeddodi gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di am hynny. 5Ac wedi iddo daflu yr arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymdagodd. 6A’r arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa, canys gwerth gwaed ydyw. 7Ac wedi iddynt gyd-ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa i ddieithriaid. 8Am hyn y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddyw. 9(Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Zachariah y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg’ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel; 10Ac a’u rhoisant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.) 11A’r Iesu a safodd ger bron y llywodraethwr: a’r llywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw, Brenin yr Iudaion? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 12A phan gyhuddid ef gan yr arch-offeiriaid a’r henuriaid, nid attebodd efe ddim. 13Yna y dywedodd Pilatus wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? 14Ac nid attebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddai y llywodraethwr yn fawr. 15Ac ar y wledd honno yr arferai y llywodraethwr ollwng yn rhŷdd i’r bobl un carcharwr, yr hwn a fynnent. 16Ac yna yr oedd ganddynt garcharwr hynod, a elwid Iesu fab#27.16 Gwel Michälis, v. 1, pp. 316, 516, gan Dr. Marsh, Esgob Llandâff: a Rosenmüller, Literatur der Biblischen, vol. 1, p. 233. Abbas. 17Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghŷd, Pilatus a ddywedai wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhŷdd i chwi? Iesu fab Abbas, ai yr Iesu, yr hwn a elwir Crist? 18Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef. 19Ac efe yn eistedd ar yr-orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwyd o’i achos ef. 20A’r arch-offeiriaid a’r henuriaid a gynhyrfasant y bobl, fel y gofynent fab Abbas, ac y difethent yr Iesu. 21A’r llywodraethwr a attebai ac a ddywedai wrthynt, Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhŷdd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Mab Abbas. 22Pilatus a ddywedai wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croes-hoelier ef. 23A’r llywodraethwr a ddywedai, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croes-hoelier ef. 24A Philatus, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylaw ger bron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. 25A’r holl bobl a attebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant. 26Yna y gollyngodd efe fab Abbas yn rhŷdd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groes-hoelio. 27Yna milwŷr y llywodraethwr a gymmerasant yr Iesu i’r lletyaeth, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin. 28A hwy a’i diosgasant ef, ac a roisant am dano fantell goch. 29A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddehau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iudaion. 30A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant y gorsen, ac a’i tarawsant ar ei ben. 31Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant a’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groes-hoelio. 32Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Kyrene, a’i enw Simon; hwn a gymmellasant i ddwyn ei groes ef. 33A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, sef, Lle y ben-glog, 34Hwy roisant iddo i’w yfed, finegir yn gymmysgedig â bustl:#27.34 I’w gryfhai, er mwyn ystyn ei einioes, a parhai ei ddioddefaint. ac wedi iddo ei brofi, ni fynnai efe yfed. 35Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni y peth a ddywedwyd trwy’r prophwyd, Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren. 36A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno: 37A gosodasant hefyd uwch ei ben ef, ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU Y BRENIN YR IUDDEWON. 38Yna y croes-hoeliwyd gyd âg ef ddau leidr; un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy. 39A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, 40A dywedyd, Ti yr hwn a ddinystri y deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes. 41A’r un modd yr arch-offeiriaid hefyd, gan watwar, gyd â’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant, 42Efe a waredai eraill, ei hunan ni’s gall efe ei waredu. Os Brenhin Israel yw, disgyned yr awrhon oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. 43Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awrhon, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf. 44A’r un peth hefyd a edliwiai y lladron iddo, y rhai a groes-hoeliasid gyd ag ef. 45Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl dir hyd y nawfed awr. 46Ac ynghŷlch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 47A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Elïas. 48Ac yn y fan un o honynt a redodd, ac a gymmerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, iddo i’w yfed.#27.48 I’w gryfhai, er mwyn ystyn ei einioes, a parhai ei ddioddefaint. 49A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elïas i’w waredu ef. 50A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r yspryd. 51Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fynu hyd i wared: a’r ddaear a grynodd, a’r creigiau a holltwyd: 52A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrph y saint a hunasent a gyfodasant, 53Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ol ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer, 54Ond y canwriad, a’r rhai oedd gyd ag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaear-gryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. 55Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilaia gan weini iddo ef: 56Ym mhlith y rhai yr oedd Maria Magdalen, a Maria mam Iakob a Ioses, a mam meibion Zebedëus. 57Ac wedi iddi hwyrhai, daeth gwr goludog o Arimathai a’i enw Ioseph, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu: 58Hwn a aeth at Pilatus, ac a ofynodd gorph yr Iesu. Yna y gorchymynodd Pilatus ei roddi. 59A Ioseph wedi cymmeryd y corph, a’i hamdoodd â llïain glân, 60Ac a’i gosododd ef yn ei fêdd newydd ei hun, yr hwn a dorrasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. 61Ac yr oedd yno Maria Magdalen, a Maria arall, yn eistedd gyferbyn a’r bedd. 62Ac ar y foru, yr hwn oedd ar ol y ddarpar-wledd, yr ymgynnullodd yr arch-offeiraid a’r Pharisai at Pilatus. 63Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe etto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf. 64Gorchymyn gan hynny gadw y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hŷd nos, a’i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth na’r cyntaf. 65A dywedodd Pilatus wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch. 66A hwy a aethant ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gan osod wyliadwriaeth.

Dewis Presennol:

Matthaw 27: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda