Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthaw 18

18
PENNOD XVIII.
Crist yn rhybuddio ei ddisgyblion i fod yn ostyngedig ac yn ddiniwed; yn dysgu pa fodd y mae i ni ymddwyn tu ag at ein brodyr, pan wnelont i’n herbyn; yr hyn beth y mae yn ei osod allan trwy ddammeg y brenin a gymmerai gyfrif gan ei weision.
1YN yr amser hynny daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ofyn, Pwy sydd fwyaf yn y lywodraeth nefoedd? 2A’r Iesu a alwodd atto blentyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; 3Ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Oddi eithr eich cyfnewid chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi i mewn i’r lywodraeth nefoedd. 4Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y plentyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn yr lywodraeth nefoedd. 5A phwy bynnag a dderbynio gyfryw yn fy enw i, a’m derbyn i. 6A plwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin assyn#18.6 Yr oeddynt yn troi yr wyrf o hen amser yn gyffredinol wrth law, a’r rhai trymmion ag assyn, ac o herwydd hyn gelwyd hwynt yn felin llaw, neu felin assyn. am ei ŵyddf, a’i foddi yn eigion y môr. 7Gwae’r byd oblegyd rhwystrau: canys anghenrhaid yw dyfod rhwystrau; er hynny gwae y dyn hwnnw trwy yr hwn y daw y rhwystr. 8Am hynny os dy law neu dy droed a’th rwystra, tor hwynt ymaith, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti fyned i mewn i’r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag â chennyt ddwy law, neu ddau droed, dy daflu i’r tân tragywyddol. 9Ac os dy lygad a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: gwell yw i ti yn un llygeidog fyned i mewn i’r bywyd, nag â dau lygad gennyt dy daflu i floeddgar dyffryn y tân. 10Edrychwch na ddirmygoch yr un o’r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangylion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 11Canys daeth Mab y dyn i gadw yr hyn a gollasid. 12Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un o honynt ar ddisberod; oni âd efe yr amyn un cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio yr hon a aeth ar ddisberod? 13Ac os bydd iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhâu am honno mwy nag am yr amyn un cant y rhai nid aethant ar ddisberod. 14Felly nid yw ewyllys eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli’r un o’r rhai bychain hyn. 15Ac os pecha dy frawd i’th erbyn, dos, ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a ynnillaist dy frawd. 16Ac os efe ni wrendy, cymmer gyd â thi etto un neu ddau, fel yn ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy. 17Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i’r gynlleidfa; ac os efe ni wrendy ar yr gynlleidfa chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a’r publican. 18Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, byddant wedi eu rhwyrno yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhâu yn y nef. 19Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear, am beth bynnag a’r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 20Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt. 21Yna y daeth Pedr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith? 22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith: ond, Hyd ddengwaith a thriugain seithwaith. 23Am hynny y cyffelybir lywodraeth nefoedd i ryw frenhin a fynnai gael cyfrif gan ei weision. 24A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd atto un a oedd yn ei ddyled ef o ddengmil o dalentau. 25A chan nad oedd ganddo i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a feddai, a thalu'r ddyled. 26A’r gwas a syrthiodd i lawr, ac a’i deisyfodd ar ei benliniau, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll. 27Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y dyled. 28Ac wedi myned o’r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o’i gyd-weision yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a’i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat. 29Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll. 30Ac ni’s gwnai efe: ond myned a’i fwrw ef yngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus. 31A phan welodd ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant ac a fynegasant i’w harglwydd yr holl bethau a fuasai, 32Yno ei arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil â mi: 33Ac oni ddylesit tithau drugarhâu wrth dy gyd-was, megis y trugarheais innau wrthyt ti? 34A’i arglwydd a ddigiodd, ac a’i rhoddodd ef i’r poenwŷr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo. 35Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.

Dewis Presennol:

Matthaw 18: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda