Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luk 8

8
PENNOD VIII.
Y gwragedd yn gweini i Ghrist o’u golud. Christ yn gosod allan ddammeg yr hauwr; a’r ganwyll: yn dangos pwy ydyw ei fam a’i frodyr: yn ceryddu y gwyntoedd: yn bwrw y lleng gythreuliaid allan o’r dyn, i’r genfaint foch: yn iachâu y wraig o’i diferlif gwaed; ac yn bywhâu merch Iairus.
1A BU wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efangylu breniniaeth Duw: a’r deuddeg oedd gyd ag ef; 2A gwragedd rai, a’r a iachesid oddi wrth ysprydion drwg a gwendid; Maria yr hon a elwid Magdalen, o’r hon yr aethai saith gythraul allan; 3Ioanna, gwraig Chusa, goruchwyliwr Herod; a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt. 4Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghŷd, a chyrchu atto o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg: 5Yr hauwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd; ac a fathrwyd, ac ehediaid y nef a’i bwyttaodd. 6A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr. 7A pheth arall a syrthiodd ym mysg drain; a’r drain a gyd-dyfasant, ac a’i tagasant ef. 8A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrandaw, gwrandawed. 9A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddammeg oedd hon? 10Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd breniniaeth Duw: eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. 11A dyma’r ddammeg: Yr had yw gair Duw. 12A’r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw y rhai sydd yn gwrandaw: wedi hynny y mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig. 13A’r rhai ar y graig, yw y rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dos amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio. 14A’r hwn a syrthiodd ym mysg drain, yw y rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd. 15A’r hwn ar y tir da, yw y rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrandaw’r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd. 16Nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo y rhai a ddêl i mewn weled y goleuni. 17Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a’r ni’s gŵybyddir, ac na ddaw i’r goleu. 18Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, ïe, yr hyn y mae yn tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno. 19Daeth atto hefyd ei fam a’i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd atto gan y dorf. 20A mynegwyd iddo gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled. 21Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a’m brodyr i yw y rhai hyn sydd yn gwrandaw gair Duw, ac yn ei wneuthur. 22A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i fâd, efe a’i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwynt i’r llyn. A hwy a gychwynasant. 23Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chwyth o wŷnt a ddisgynodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd. 24A hwy a aethant atto, ac a’i deffroisant ef, gan ddywedyd, Arlwydd, Arlwydd, darfu am danom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwŷnt a’r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel. 25Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhâu iddo? 26A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall ar gyfer Galilaia. 27Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw wr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau. 28Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn attolwg i ti na’m poenech. 29(Canys efe a orchymynasai i’r yspryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio y rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch) 30A’r Iesu a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef. 31A hwy a ddeisyfiasant arno, na orchymynai iddynt fyned i’r gwaelod. 32Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y bryn: a hwy a attolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt. 33A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd dan y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd. 34A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoisant, ac a aethant ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad. 35A hwy a aethant allan i weled y peth a wnelsid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o’r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant. 36A’r rhai a welsent, a fynegasant hefyd iddynt pa fodd yr iachasid y cythreulig. 37A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r bâd, a ddychwelodd. 38A’r gwr o’r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, a ddeisyfiodd arno gael bod gyd ag ef; eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd, 39Dychwel i’th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth, dan bregethu trwy gwbl o’r ddinas, faint a wnaethai yr Iesu iddo. 40A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwyl am dano ef. 41Ac wele, daeth gwr a’i enw Iairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog: ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a attolygodd iddo ddyfod i’w dŷ ef: 42O herwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig ynghŷlch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. (Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef. 43A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar physygwŷr ei holl fywyd, ac ni’s gallai gael gan neb ei hiachâu, 44A ddaeth o’r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi. 45A dywedodd yr Iesu, Pwy a gyffyrddodd â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gyd ag ef, Arlwydd, y mae y bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy a gyffyrddodd â mi? 46A’r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan o honof. 47A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd. 48Yntau a ddywedodd wrthi, Cymmer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn tangnefedd.) 49Ac efe etto yn llafaru, daeth un o dŷ llywodraethwr y synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo’r Athraw. 50A’r Iesu pan glybu hyn, a’i hattebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn unig, a hi a iachêir. 51Ac wedi ei fyned ef i’r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr, ac Iakob, ac Ioan, a thad yr eneth a’i mam. 52Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan am dani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi; eithr cysgu y mae. 53A hwy a’i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi. 54Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan, ac a’i cymmerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Eneth, Cyfod. 55A’i hyspryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchymynodd roi bwyd iddi. 56A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchymynodd iddynt, na ddywedent i neb y peth a wnaethid.

Dewis Presennol:

Luk 8: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luk 8