Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luk 4

4
PENNOD IV.
Profiad ac unpryd Christ. Pobl Nazaret yn rhyfeddu am ei eiriau grasusol ef. Y mae efe yn iachâu yn cythreulig, a mam gwraig Pedr, a llawer o gleifion eraill. Y cythreuliaid yn cydnabod Christ. Y mae efe yn pregethu trwy y dinasoedd.
1A’R Iesu yn llawn o’r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iordan, ac a arweiniwyd gan yr yspryd i’r anialwch, 2Yn cael ei brofi gan ddiafol ddeugain diwrnod. Ac ni fwyttaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, daeth arno chwant bwyd. 3A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon, fel y gwneler hi yn fara. 4A’r Iesu a attebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw. 5A diafol wedi ei gymmeryd ef i fynu i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl lywodraethau y byd cyfaneddawl mewn munud o amser. 6A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi. 7Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen, eiddot ti fyddant oll. 8A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ol i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi. 9Ac efe a’i dug ef i Ierusalem, ac a’i gosododd ar ben y deml; ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma. 10Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di: 11Ac y cyfodant di yn eu dwylaw, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg. 12A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na phrofa yr Arglwydd dy Dduw. 13Ac wedi i ddiafol orphen yr holl brofedigaeth, efe a ymadawodd ag ef dros amser. 14A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr yspryd i Galilaia: a son a aeth amdano ef trwy yr holl fro oddi amgylch. 15Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb. 16Ac efe a ddaeth i Nazaret, lle y magesid ef: ac yn ol ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y sabbath, ac a gyfododd i fynu i ddarllen. 17A rhodded atto lyfr y prophwyd Esaias: Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, 18Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, o herwydd iddo fy enneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iachâu y drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb; 19I bregethu blwyddyn gymmeradwy yr Arglwydd. 20Ac wedi iddo gau y llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno. 21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, heddyw y cyflawnwyd yr ysgrythyr hon yn eich clustiau chwi. 22Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph? 23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollawl y dywedwch y ddiareb hon wrthyf, Meddyg, iachâ dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yn Kapernaum, gwna yma hefyd yn dy wlad dy hun. 24Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un prophwyd yn gymmeradwy yn ei wlad ei hun. 25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Elïas, pan gauwyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy yr holl dir; 26Ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elïas, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig weddw. 27A llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elissaia y prophwyd; ac ni lanhawyd yr hun o honynt, ond Naaman y Syriad. 28A’r rhai oll yn y synagog a lanwyd o ddigofaint, wrth glywed y pethau hyn; 29Ac a godasant i fynu, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl dros y dibyn. 30Ond efe, gan fyned trwy eu canol hwynt, a aeth ymaith; 31Ac a ddaeth i wared i Kapernaum, dinas yn Galilaia: ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y dyddiau sabbath. 32A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gyd ag awdurdod. 33Ac yr oedd dyn yn y synagog â chanddo yspryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel, 34Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazaret? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw. 35A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan o hono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo. 36A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â’u gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn? gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn myned allan. 37A son am dano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch. 38A phan gyfododd yr Iesu o’r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd twym: a hwy a attolygasant arno drosti hi. 39Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a’r cryd a’i gadawodd hi; ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy. 40A phan fachludodd yr haul, pawb a’r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a’u dygasant hwy atto ef; ac efe a roddes ei ddwylaw ar bob un o honynt, ac a’u hiachaodd hwynt. 41Ar cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, dan lefain a dywedyd, Ti yw Christ, Mab Duw. Ac efe a’u ceryddodd hwynt, ac nid adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Christ. 42Ac wedi iddi ddyddhai, efe a aeth allan, ac a gychwynodd i le angyfanedd: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef, a hwy a ddaethant hyd atto, ac a’i hattaliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt. 43Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu breniniaeth Duw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y’m danfonwyd. 44Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilaia.

Dewis Presennol:

Luk 4: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luk 4