Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luk 23

23
PENNOD XXIII.
Cyhuddo yr Iesu ger bron Pilatus; Herod yn ei watwar ef. Y bobl yn deisyf cael Barabbas#Barabbas, hynny yw, Mab y Tâd.; a Philatus yn rhoddi yr Iesu i’w groeshoelio. Yntau yn mynegi ddinystr Ierusalem: yn gweddïo dros ei elynion. Ei farwolaeth, a’i gladdedigaeth ef.
1A’R holl lïaws a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Pilatus. 2Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi y bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrn-ged i Kæsar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Christ Frenin. 3A Philatus a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iudaion? Ac efe a attebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. 4A dywedodd Pilatus wrth yr arch-offeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael un achos ar y dyn hwn. 5A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffrôi y bobl, gan ddysgu trwy holl Iudaia, wedi dechreu o Galilaia hyd yma. 6A phan glybu Pilatus son am Galilaia, efe a ofynodd ai Galilaiad oedd y dyn. 7A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yn Ierusalem y dyddiau hynny. 8A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef; oblegyd iddo glywed llawer am dano ef; ac yr ydoedd yn gobeitho cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr nid attebodd iddo. 10A’r arch offeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. 11A Herod a’i filwŷr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, ai danfonodd ef drachefn at Pilatus. 12A’r dwthwn hwnnw yr aeth Pilatus a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’u gilydd. 13A Philatus, wedi galw ynghŷd yr arch-offeiriaid, a’r llywiawdwŷr, a’r bobl, 14A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn attaf fi, fel un a fyddai yn gŵyr-droi y bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt: 15Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth ni’s gwnaed iddo. 16Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith. 17Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhŷdd iddynt ar yr wledd. 18A’r holl lïaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Mab y Tad yn rhŷdd: 19(Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar) 20Am hynny Pilatus a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhŷdd. 21Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef. 22Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhŷdd. 23Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groes-hoelio ef. A’u llefau hwynt, a’r arch-offeiriaid, a, orfuant. 24A Philatus a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25Ac efe a ollyngodd yn rhŷdd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. 26Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Kyrene, yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ol yr Iesu. 27Ac yr oedd yn ei ganlyn ef lïaws mawr o bobl, ac o wragedd; y rhai hefyd oeddynt yn cwynfan, ac yn galaru o’i blegyd ef. 28A’r Iesu, wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Ierusalem, na wylwch o’m plegyd i: eithr wylwch o’ch plegyd eich hunain, ac oblegyd eich plant. 29Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai ammhlantadwy, a’r crothau ni eppiliasant, a’r bronnau ni roisant sugn. 30Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddodd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. 31Canys os gwnant hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin? 32Ac arweiniwyd gyd ag ef hefyd ddau eraill drwg-weithredwŷr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33A phan ddaethant i’r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliasant ef, a’r drwg-weithredwŷr; un ar y llaw ddehau, a’r llall ar yr aswy. 34A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35A’r bobl a safodd yn edrych. A’r pennaethiaid hefyd gyd â hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Christ, etholedig Duw. 36A’r milwŷr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo finegr, 37A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iudaion, gwared dy hun. 38Ac yr ydoedd hefyd arsgrifen wedi ei ’sgrifenu uwch ei ben ef, â llythyrenau Groeg, a Lladin, ac Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IUDAION. 39Ac un o’r drwg-weithredwŷr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Christ, gwared dy hun a ninnau. 40Eithr y llall a attebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un farn? 41A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai y pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th freniniaeth. 43A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyd â mi ym mharadwys. 44Ac yr ydoedd hi ynghŷlch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl wlad hyd y nawfed awr. 45A’r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd trwy ei chanol. 46A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i’th ddwylaw di y gorchymynaf fy yspryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. 47A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn wr cyfiawn. 48A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghŷd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfron. 49A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilaia, yn edrych ar y pethau hyn. 50Ac wele, gwr a’i enw Ioseph, yr hwn oedd gynghorwr, gwr da a chyfiawn: 51(Hwn ni chyttunasai â’u cynghor ac a’i gweithred hwynt) o Arimathea, dinas yr Iudaion (yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am freniniaeth Duw) 52Hwn a ddaeth at Pilatus, ac a ofynodd gorph yr Iesu. 53Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn eriôed. 54A’r dydd hwnnw oedd ddarpar-wyl, a’r sabbath oedd yn nesâu. 55A’r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gyd ag ef o Galilaia, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef. 56A hwy a ddychwelasant, ac a barattoisant bêr-aroglau ac ennaint; ac a orphwysasant ar y sabbath, yn ol y gorchymyn.

Dewis Presennol:

Luk 23: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luk 23