Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luk 13

13
PENNOD XIII.
Christ yn pregethu edifeirwch, wrth gospedigaeth y Galilai ac eraill; yn iachâu y wraig oedd wedi crymmu: yn dangos galluog weithrediad y gair ynghalonnau ei etholedigion, trwy ddammeg y gronyn mwstard, a’r surdoes; yn annog i fyned i mewn i’r porth cyfyng; ac yn argyhoeddi Herod, a Ierusalem.
1AC yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw, rai yn mynegi iddo am y Galilai, y rhai y cymmysgasai Pilatus eu gwaed ynghyd a’u haberthau. 2A’r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galilai hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galilai, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau? 3Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhêwch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. 4Neu y deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanneddu yn Ierusalem? 5Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhêwch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. 6Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac ni’s cafodd. 7Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael: tor ef i lawr; paham y mae yn dïffrodi’r tir? 8Ond efe gan atteb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon etto, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch, a bwrw tail: 9Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid ê, gwedi hynny tor ef i lawr. 10Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y sabbath. 11Ac wele, yr oedd gwraig ag ynddi yspryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cyd-grymmu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymuniawnu. 12Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi atto, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid. 13Ac efe a roddes ei ddwylaw arni: ac yn ebrwydd hi a uniawnwyd, ac a ogoneddodd Dduw. 14A’r arch-synagogydd a attebodd yn ddigllon, am i’r Iesu iachâu ar y sabbath, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai’n gan hynny deuwch, a iachâer chwi; ac nid ar y dydd sabbath. 15Am hynny yr Arglwydd a’i hattebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un o honoch ar y sabbath ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr? 16Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhâu o’r rhwym hwn ar y dydd sabbath? 17Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo. 18Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae breniniaeth Duw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi? 19Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn ac a’i hauodd yn ei ardd; ac efe a gynnyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef. 20A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf breniniaeth Duw? 21Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl. 22Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tu a Ierusalem. 23A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24Ymdrechwch am fyned i mewn trwy y porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac ni’s gallant. 25Gwedi cyfodi gwr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll oddi allan, a churo y drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau atteb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim o honoch o ba le yr ydych: 26Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwyttasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. 27Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwŷr anwiredd. 28Yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Iakob, a’r holl brophwydi, yn freniniaeth Duw, a chwithau wedi eich bwrw allan. 29A daw y rhai o’r dwyrain ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd ac o’r dehau, ac a eisteddant yn freniniaeth Duw. 30Ac wele, y rhai a ydynt olaf, a fyddant flaenaf, a rhai ydynt flaenaf a fyddant olaf. 31Y dydd hwnnw y daeth atto ryw Pharisai, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddiyma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iachâu heddyw ac y foru, a’r drannaeth y’m perffeithir. 33Er hynny rhaid i mi ymdaith heddyw, ac y foru, a thrennydd: canys ni all fod, y derfydd am brophwyd allan o Ierusalem. 34O Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a anfonir attat; pa mor fynych y mynnaswn gasglu dy blant ynghŷd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd, ac ni’s mynnech! 35Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywettoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Luk 13: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luk 13