Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luk 11

11
PENNOD XI.
Christ yn dysgu gweddïo, a hynny heb ddiffygio; yn ceryddu y Pharisai cablaidd; yn dangos pwy sydd fendigedig; yn pregethu i’r bobl; ac yn argyhoeddi ffug sancteiddrwydd y Pharisai, a’r ysgrifenyddion, a’r cyfreithwyr.
1A BU, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan beidiodd, ddywedyd o un o’i ddisgyblion wrtho, Arglwydd, dysg i ni weddïo, megis ag y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion. 2Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddïoch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deued dy freniniaeth felly ar y ddaear megis y mae yn y nefoedd. 3Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. 4A maddeu i ni ein pechodau: canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sydd yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg. 5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd iddo gyfaill, ac a â atto hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn: 6Canys cyfaill i mi a ddaeth attaf wrth ymdaith, ac nid oes gennyf ddim i’w ddodi ger ei fron ef. 7Ac yntau oddi mewn a ettyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae y drws yn gauad, a’m plant gyd â mi yn y gwely; ni allaf godi a’u rhoddi i ti? 8Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; etto o herwydd ei daerni, efe a gyfyd ac a rydd iddo gynnifer ag y sydd arno eu heisiau. 9Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi. 10Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir. 11Os a ofyn mab bara i un o honoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn a ddyry efe iddo sarph yn lle pysgodyn? 12Neu os gofyn efe ŵy, a ddyry efe ysgorpion iddo? 13Os chwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i’ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o’r nef yr Yspryd Glân i’r rhai a ofyno ganddo? 14Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i’r cythraul fyned allan, i’r mudan lefaru; a’r bobloedd a ryfeddasant. 15Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. 16Ac eraill, gan ei brofi, a geisiasant ganddo arwydd o’r nef. 17Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob breniniaeth wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth. 18Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, pa fodd y saif ei freniniaeth ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid. 19Ac os trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwŷr arnoch chwi. 20Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, dïammeu ddyfod breniniaeth Duw attoch chwi. 21Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch. 22Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a’i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. 23Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casglu gyd â mi, sydd yn gwasgaru. 24Pan el yr yspryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y daethum allan. 25A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu. 26Yna yr â efe, ac y cymmer atto saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ant i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth nâ’i ddechreuad. 27A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwŷn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist. 28Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwŷn fyd y rhai sydd yn gwrandaw gair Duw, ac yn ei gadw. 29Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghŷd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Ionas y prophwyd. 30Canys fel y bu Ionas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon. 31Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn yn erbyn y genhedlaeth hon, ac a’u euog-farnant: am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrandaw doethineb Solomon; ac wele, un mwy na Solomon yma. 32Gwyr Ninefe a godant i fynu yn y farn yn erbyn y genhedlaeth hon, ac a’u euog-farnant: am iddynt edifarhâu wrth bregeth Ionas: ac wele, un mwy nâ Ionas yma. 33Ac nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni. 34Canwyll y corph yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn bûr, dy holl gorph hefyd fydd oleu: ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorph hefyd fydd tywyll. 35Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. 36Os dy holl gorph gan hynny sydd oleu, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn oleu, megis pan fo canwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di. 37Ac fel yr oedd efe yn llafaru, rhyw Pharisai a ddymunodd arno giniawa gyd ag ef. Ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwytta. 38A’r Pharisai pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen ciniaw. 39A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwi y Pharisai ydych yn glanhâu y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. 40O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd o fewn hefyd? 41Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi. 42Eithr gwae chwi y Pharisai: canys yr ydych chwi yn degymmu y mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur. 43Gwae chwi y Pharisai; canys yr ydych yn caru y prif-gadeiriau yn y synagogau, a chyfarch yn y marchnadleodd. 44Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisai, ragrithwyr; am eich bod fel beddau anamlwg, a’r dynion a rodiant arnynt heb wybod oddi wrthynt. 45Ac un o’r cyfreithwyr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn, yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau hefyd. 46Yntau a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd, y cyfreithwyr; canys yr ydych yn llwytho dynion a beichiau anhawdd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â’r beichiau ag un o’ch bysedd. 47Gwae chwi; canys yr ydych yn adeiladu beddau y prophwydi, a’ch tadau chwi a’u lladdodd hwynt. 48Yn wir yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gyd-foddlon i weithredoedd eich tadau: canys hwy yn wir a’u lladdasant, a chwithau ydych yn adeiladu eu beddau. 49Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf attynt brophwydi ac apostolion, a rhai o honynt a laddant ac a erlidiant. 50Fel y gofyner i’r genhedlaeth hon waed yr holl brophwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y byd; 51O waed Abel hyd waed Zacharïas, yr hwn a laddwyd rhwng yr allor a’r tŷ; dïau meddaf i chwi, Gofynir ef i’r genhedlaeth hon. 52Gwae chwi, y cyfreithwyr; canys chwi a ddygasoch ymaith agoriad y gwybodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn myned chwi a rhwystroch. 53Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Pharisai fod yn daer iawn arno, a’i annog i ymadrodd am lawer o bethau: 54Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o’i enau ef, i gael achwyn arno.

Dewis Presennol:

Luk 11: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luk 11