Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 5

5
PENNOD V.
Yr Iesu ar y dydd sabbath yn iachâu yr hwn a fuasai glaf dwy flynedd a deugain: a’r Iudaion am hynny yn ei erlid ef. Ac yntau yn atteb drosto ei hun, ac yn eu hargyhoeddi, gan ddangos pwy ydyw ef, trwy dystiolaeth ei Dad, ac Ioan, a’i weithredoedd ei hun, a’r ysgrythyrau.
1WEDI hynny yr oedd gwledd yr Iudaion; a’r Iesu a aeth i fynu i Ierusalem. 2Ac y mae yn Ierusalem, wrth farchnad y defaid, lyn a elwir yn Hebraeg, Bethesda, ag iddo bum porth: 3Yn y rhai y gorweddai llïaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwyl am gynhyrfiad y dwfr. 4Canys yr oedd angel ar amserau yn disgyn i’r llyn, ac yn cynhyrfu y dwfr: yna yr hwn a elai i mewn yn gyntaf ar ol cynhyrfu y dwfr, a ai yn iach o ba glefyd bynnag a fyddai arno. 5Ac yr oedd rhyw ddyn yno, yr hwn a fuasai glaf ddwy flynedd a deugain. 6Yr Iesu, pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fod ef felly yn hir o amser, a ddywedodd wrtho, A fynni di dy wneuthur yn iach? 7Y claf a attebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennyf ddyn i’m bwrw i’r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra byddwyf fi yn dyfod, arall a ddisgyn o’m blaen i. 8Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Cyfod, cymmer dy wely i fynu, a rhodia. 9Ac yn ebrwydd y gwnaed y dyn yn iach; ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd. A’r diwrnod hwnnw oedd y sabbath. 10Am hynny yr Iudaion a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, Y sabbath yw hi: nid cyfreithlon i ti godi dy wely. 11Efe a attebodd iddynt, Yr hwn a’m gwnaeth i yn iach, a ddywedodd wrthyf, Cyfod dy wely, a rhodia. 12Yna hwy a ofynnasant iddo, Pwy yw y dyn a ddywedodd wrthyt ti, Cyfod dy wely, a rhodia? 13A’r hwn a iachasid ni wyddai pwy oedd efe. Canys yr Iesu a giliasai o’r dyrfa oedd yn y fan honno. 14Wedi hynny yr Iesu a’i cafodd ef yn y deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth. 15Y dyn a aeth ymaith, ac a fynegodd i’r Iudaion, mai yr Iesu oedd yr hwn a’i gwnaethai ef yn iach. 16Ac am hynny yr Iudaion a erlidiasant yr Iesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegyd iddo wneuthur y pethau hyn ar y sabbath. 17Ond yr Iesu a’u hattebodd hwynt, Y mae fy Nhad yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finnau yn gweithio. 18Am hyn gan hynny yr Iudaion a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegyd nid yn unig iddo dorri y sabbath, ond hefyd iddo ddywedyd fod Duw yn Dad iddo, gan ei wneuthur ei hun yn debyg i Dduw. 19Yna yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ni ddichon y Mab wneuthur dim o hono ei hunan, eithr yr hyn a welo efe y Tad yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur hynny hefyd y mae y Mab yr un modd yn ei wneuthur. 20Canys y Tad sydd yn caru y Mab, ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae efe yn ei wneuthur: ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy nâ’r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi. 21Oblegyd megis y mae y Tad yn cyfodi y rhai meirw, ac yn eu bywhâu; felly hefyd y mae y Mab yn bwyhâu y rhai a fynno. 22Canys y Tad nid yw yn barnu neb; eithr efe a roddes bob barn i’r Mab: 23Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tad yr hwn a’i hanfonodd ef. 24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrandaw fy rhewsm i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragywyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd. 25Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae yr awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo y meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw. 26Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; 27Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, o herwydd ei fod yn Fab dyn. 28Na ryfeddwch am hyn: canys y mae yr awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: 29A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i adgyfodiad bywyd: ond y rhai a wnaethant ddrwg, i adgyfodiad barn. 30Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hunan: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 31Os ydwyf fi yn tystiolaethu am danaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir. 32Arall sydd yn tystiolaethu am danaf fi; ac mi wn mai gwir yw y dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu am danaf fi. 33Chwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth, i’r gwirionedd. 34Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi. 35Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddych ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef. 36Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorphen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu am danaf fi, mai y Tad a’m hanfonodd i. 37A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, efe a dystiolaethodd am danaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef. 38Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu ynddo. 39Chwiliwch yr ysgrythyrau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragywyddol: a hwy yw y rhai sydd yn tystiolaethu am danaf fi. 40Ond ni fynnwch chwi ddyfod attaf fi, fel y caffoch fywyd. 41Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. 42Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch. 43Myfi a ddaethum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch. 44Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig? 45Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad; y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio. 46Canys pe credasech chwi Moses, chwi a gredasech finnau: oblegyd ysgrifenodd ef am danaf fi. 47Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifenadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?

Dewis Presennol:

Ioan 5: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda