Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 15

15
PENNOD XV.
Y diddanwch a’r caredigrwydd sydd rhwng Christ a’i aelodau, trwy ddammeg y winwŷdden. Cysur mewn casineb, ac erlid bydol. Swydd yr Yspryd Glân, a’r apostolion.
1MYFI yw y wir winwŷdden, a’m Tad yw y winllanwr. 2Pob cangen ynof fi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymaith: a phob un a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhâu, fel y dygo fwy o ffrwyth. 3Yr awrhon yr ydych chwi yn lân trwy y gair a lefarais i wrthych. 4Arhoswch ynof fi, a mi ynoch chwi. Megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwŷdden; felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynof fi. 5Myfi yw yr winwŷdden, chwithau yw y canghennau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minnau ynddo yntau, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegyd hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. 6Onid erys un ynof fi, efe a daflir allan megis cangen, ac a wywodd; ac y maent yn casglu y cyfryw, ac yn eu bwrw yn y tân, a hwy a losgir. 7Os arhoswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynwch, ac efe a fydd i chwi. 8Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer: a disgyblion fyddwch i mi. 9Fel y carodd y Tad fi, felly y cerais innau chwithau: arhoswch yn fy nghariad i. 10Os cedwch fy ngorchymynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchymynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. 11Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosai fy llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd yn gyflawn. 12Dyma fy ngorchymyn i; Ar i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi. 13Nid oes gan neb gariad mwy nâ hwn; sef, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. 14Chwi ydych fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. 15Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision; oblegyd ni wyr y gwas beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a’ch gelwais chwi yn gyfeillion; oblegyd pob peth a’r a glywais gan fy Nhad, a hyspysais i chwi. 16Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr eloch ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth, megis pa beth bynnag a ofynoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. 17Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eich gilydd. 18Os yw y byd yn eich casâu chwi, chwi a wyddoch gasâu o hono fyfi o’ch blaen chwi. 19Pe byddech o’r byd, y byd a garai yr eiddo; ond oblegyd nad ydych o’r byd, eithr i mi eich dewis allan o’r byd, am hynny y mae y byd yn eich casâu chwi. 20Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych; Nid yw y gwas yn fwy nâ’i arglwydd. Os erlidiasant fi, hwy a’ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. 21Eithr hyn oll a wnant i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a’m hanfonodd i. 22Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod: ond yr awrhon nid oes ganddynt esgus am eu pechod. 23Yr hwn sydd yn fy nghasâu i, sydd yn casâu fy Nhad hefyd. 24Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awrhon hwy a welsant, ac a’m casasant i a’m Tad hefyd. 25Eithr, fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos. 26Eithr pan ddel y Diddanydd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tad (sef Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y Tad) efe a dystiolaetha am danaf fi. 27Chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyd â mi.

Dewis Presennol:

Ioan 15: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda