Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 12

12
PENNOD XII.
Yr Iesu yn esgusodi Maria am enneinio ei draed ef. Y bobl yn ymgasglu i weled Lazarus. Yr arch-offeiriaid yn ymgynghori i’w ladd ef. Christ yn marchogaeth i Ierusalem. Groegwŷr yn ewyllysio ei weled. Y mae efe yn rhag fynegi ei farwolaeth. Yr Iudaion gan mwyaf wedi eu dallu; er hynny llawer o bennaethiaid yn credu, ond heb ei gyffesu ef: yr Iesu gan hynny yn galw am gyffesu ffydd.
1YNA yr Iesu, chwe diwrnod cyn y pasg, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn a fuasai farw, yr hwn a godasai efe o feirw. 2Ac yno y gwnaethant iddo gwynos: a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lazarus oedd un o’r rhai a eisteddent gyd ag ef. 3Yna y cymmerth Maria bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a enneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt: a’r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint. 4Am hynny y dywedodd un o’i ddisgyblion ef, Iudas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd ar fedr ei draddodi. 5Paham na werthwyd yr ennaint hwn er tri chan ceiniog, a’i roddi i’r tlodion? 6Eithr hyn a ddywedodd efe, nid o herwydd bod arno ofal dros y tlodion; ond am ei fod yn lleidr, a bod ganddo gôd cardod, a’i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo. 7A’r Iesu a ddywedodd, Gâd iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn. 8Canys y mae y tlodion gyd â chwi bob amser; eithr myfi nid wyf gennych bob amser. 9Gwybu gan hynny dyrfa fawr o’r Iudaion ei fod ef yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn yr Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a godasai efe o feirw. 10Eithr yr arch offeiriaid a ymgynghorasant, fel y lladdent Lazarus hefyd. 11Oblegyd llawer o’r Iudaion a aethant ymaith o’i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu. 12Ar y foru, tyrfa fawr, yr hon a ddaethai i’r wledd, pan glywsant fod yr Iesu yn dyfod i Ierusalem, 13A gymmerasant gangau o’r palmwŷdd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna: Bendigedig yw Brenin Israel yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. 14A’r Iesu wedi cael asynyn, a eisteddodd arno; megis y mae yn ysgrifenedig, 15Nac ofna, merch Sion: wele, y mae dy Frenin yn, dyfod, yn eistedd ar ebol asyn. 16Y pethau hyn ni wybu ei ddisgyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo. 17Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gyd ag ef, pan alwodd efe Lazarus o’r bedd, a’i godi ef o feirw. 18Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed o honynt iddo wneuthur yr arwydd hon. 19Y Pharisai gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tyccio ddim? wele, fe aeth y byd ar ei ol ef. 20Ac yr oedd rhai Groegiaid ym mhlith y rhain ddaethant i fynu i addoli ar y wledd. 21Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilaia, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Athraw, ni a ewyllysiem weled yr Iesu. 22Philip a ddaeth ac a ddywedodd i Andreas: a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i’r Iesu. 23A’r Iesu a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn. 24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaear, a marw, hwnnw a erys yn unig: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer. 25Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casâu ei einioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragywyddol. 26Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef. 27Yr awrhon y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dad, gwared fi allan o’r awr hon: ond o herwydd hyn y daethum i’r awr hon. 28O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth lef o’r nef, Mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf drachefn. 29Y dyrfa gan hynny yr hon oedd yn sefyll, ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho. 30Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Nid o’m hachos i y bu y llef hon, ond o’ch achos chwi. 31Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn. 32A minnau, os dyrchefir fi oddi ar y ddaear, a dynnaf bawb attaf fy hun. 33(A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angau y byddai farw.) 34Y dyrfa a attebodd iddo, Ni a glywsom o’r ddeddf, fod Christ yn aros yn dragywyddol: a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd, fod yn rhaid dyrchafu Mab y dyn? pwy ydyw Mab y dyn? 35Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Etto ychydig ennyd y mae y goleuni gyd â chwi. Rhodiwch tra byddo gennych, y goleuni, fel na ddalio’r tywyllwch chwi: a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni wyr i ba le y mae yn myned. 36Tra byddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt. 37Ac er iddo wneuthur gymmaint o arwyddion yn eu gŵydd hwynt, ni chredasant ynddo. 38Fel y cyflawnid ymadrodd Esaias y prophwyd, yr hwn a ddywedodd, Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd? 39Am hynny ni allent gredu, oblegyd dywedyd o Esaias drachefn, 40Efe a ddaliodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â’u llygaid, a deall a’u calon, ac ymchwelyd o honynt, ac i mi eu hiachâu hwynt. 41Y pethau hyn a ddywedodd Esaias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd am dano ef. 42Er hynny llawer o’r pennaethiaid a gredasant ynddo; ond oblegyd y Pharisai ni chyffesasant ef, rhag eu bwrw allan o’r synagog: 43Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion yn fwy nâ gogoniant Duw. 44A’r Iesu a lefodd ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a’m hanfonodd i. 45A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a’m danfonodd i. 46Mi a ddaethum yn oleuni i’r byd, fel y bo i bob un a’r sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch. 47Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wyf yn ei farnu ef: canys ni ddaethum i farnu y byd, eithr i achub y byd. 48Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo un yn ei farnu: y gair a lefarais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diweddaf. 49Canys myfi ni lefarais o honof fy hun: ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a roddes orchymyn i mi, beth a ddywedwn, a pha beth a lefarwn. 50Ac mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragywyddol: am hynny y pethau yr wyf fi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tad wrthyf, felly yr wyf yn llefaru.

Dewis Presennol:

Ioan 12: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda