Lyfr y Psalmau 24
24
1Duw Ner yw perchen daear lawr,
Ei golud a’i chyflawnder mawr,
Y byd, a phawb sydd ynddo ’n byw;
2Fe ’i seiliwyd ar y moroedd maith,
Sicrhâed hi ar y llif‐ddwfr llaith,
Gan gywrain allu dwylaw Duw.
3Pwy, pwy yw ’r sawl a esgyn fry
I sanctaidd fynydd Duw a’i Dŷ?
Pwy yno saif heb gwymp na nam?
4Y glân ei law, y pur ei fryd,
Heb godi ei serch at wagedd byd,
Na thyngu llwon twyll a cham.
5Hwn, hwn a gaiff y fendith bêr,
Cyfiawnder gan ei Arglwydd Ner,
Duw iachawdwriaeth iddo yw:
6Y rhai ’n yw ’r llwyth a’r llinach gwir
A geisiant wedd dy wyneb clir,
Y rhai ’n yw didwyll Israel Duw.
YR AIL RAN
7Dyrchwch, byrth, eich pennau ’n uchel,
Ddorau bythol, dyrchwch chwi;
Wele Frenhin y Gogoniant,
Daw i mewn mewn rhwysg a bri;
8“Pwy yw Brenhin y Gogoniant?
Traethwch in’ ei Enw gwiw.”
Ior cadernid yw ei Enw,
Grymmus Ior mewn rhyfel yw.
9Dyrchwch, byrth eich pennau ’n uchel,
Ddorau bythol, dyrchwch chwi;
Wele Frenhin y Gogoniant,
Daw i mewn mewn rhwysg a bri;
10“Pwy yw Brenhin y Gogoniant?
Traethwch in’ ei Enw gwiw.”
Duw y lluoedd yw ei Enw,
Brenhin y Gogoniant yw.
Dewis Presennol:
Lyfr y Psalmau 24: SC1850
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.