Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 8

8
Salm VIII.
I’r Pencerdd; ar “dôn” y gwinwryf#8:0 gwinwryf. — Meddylia rhai mai enw tôn ydyw; ac ereill, mai offeryn cerdd ydyw. Cyfaddef Calfin nas gwyr pa un a feddylir.: cerdd o eiddo Dafydd.
1 Iehova, ein Llywydd#8:1 Llywydd— אדני. Daw oddiwrth דן, llywio, barnu, amddiffyn; neu oddiwrth אדן sylfaen, neu golofn. Os yr olaf sydd iawn, cynhalydd yw’r gair cymhwysaf.,
Mor fawrwych#8:1 mawrwych— godidog, ardderchog, gogoneddus. LXX, θαυμαστον, rhyfeddol. dy enw trwy’r holl ddaear!
Yr hwn a roddaist dy harddwch#8:1 harddwch— prydferthwch, ardderchawgrwydd, mawrhydi. uwchlaw#8:1 uwchlaw, sef, “uwchlaw harddwch” y nefoedd. Mae prydferthwch Duw yn rhagori ar brydferthwch yr eangder goleu sy’n ymddangos mor odidog. Gwel Salm 148:19. lle y dywedir fod “ei ardderchawgrwydd ef (yr un gair gwreiddiol ag yma) uwchlaw daear a nefoedd,” sef uwchlaw “ardderchawgrwydd” daear a nefoedd. — Ond nid wyf sicr na ddylai y llinell fod fel hyn — Yr hwn a roddaist dy harddwch ar y nefoedd, sef ar y nefoedd weledig a sonia am dani yn adn. 3. Gwel Salm 19:1. y nefoedd.
2O enau babanod a’r rhai yn sugno
Y trefnaist nerth,#8:2 trefnaist nerth,sef i foli Duw. Yn Mat. 21:16. “perffeithiaist foliant.” Yr un yw’r ystyr, er fod y geiriau yn wahanol. Dyma gyfieithiad y LXX. Er rhoddi taw ar wrthwynebwyr cableddus, par Duw i fabanod i’w foliannu. Nid i’r hunan ddoeth y datguddia Duw ei hun, ond i rai bychain, i fabanod, o ran oedran, neu o ran deall, Mat. 11:25; 1 Cor. 1:27. o herwydd dy wrthwynebwyr,
Er gostegu’r gelyn a’r ymddialydd.
3Pan olygwyf dy nefoedd, gwaith dy fysedd,
Y lleuad a’r sêr y rhai a luniaist,
4Pa beth yw adyn#8:4 adyn— dyn dirywiedig, clwyfus. Daw o air a arwydda, bod yn glaf, clafychu. 2 Sam. 12:15,, fel y cofiot ef,
Neu fab dyn, fel yr ymwelot âg ef! —
5Etto#8:5 Etto— Nid yw y cyssylltiad hwn yn Heb. 2:7. lle y ceffir yr adnod hon, wedi ei chymmeryd o’r LXX. Canys yw yn y cyfieithiad cyffredin. Cyfaddefir gwaeledd dyn yn yr adnod flaenorol; ac yma y gosodir allan fel y gwnaeth Duw ef ar y cyntaf. Felly, etto, neu, er hyny, a rydd yr ystyr oreu. gwnaethost ef ychydig îs na’r angelion, â choronaist ef â gogoniant ac anrhydedd;
6Gwnest ef yn llywydd ar weithredoedd dy ddwylaw;
Y cwbl a osodaist tan ei draed —
7Defaid ac ychain oll, Ac hefyd anifeiliaid y maes;
8Adar y nefoedd, a physg y môr,
A dramwyant lwybrau y moroedd. —
9 Iehova, ein Llywydd,
Mor fawrwych dy enw trwy’r holl ddaear!

Dewis Presennol:

Salmau 8: TEGID

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda