Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 13

13
Salm XIII.
I’r Pencerdd. Salm o eiddo Dafydd.#13:0 Mewn cyfyngder hynod yr oedd y Salmydd, pan gyfansoddodd y gerdd hon. Pa un ai Saul, neu Absalom, oedd ei orthrymydd, nis gwyddir. Tyb rhai yw mai’r olaf ydoedd, o herwydd gwan hyder y Salmydd; gan y meddylir i’w gwymp mawr yn y pechod o odineb wanhau ei obaith.
1Pa hyd, Iehova? a anghofi fi dros byth?
Pa hyd y dirgeli dy wyneb rhagof?
2Pa hyd y trefnaf#13:2 trefnaf, &c. — Yr oedd yn ymgynghori ynddo ei hun, yn parhau yn ei gyflwr peryglus, a gofid yn ei galon. Sylwad Calvin ar yr adnod hon sydd dra rhagorol: “Er yr addawa Duw roddi i gredinwyr yspryd cyngor, etto ni rydd efe bob amser ar y cyntaf; ond gadawa iddynt redeg dros amser megys trwy gylchdroadau dyrus (per flexuosus ambasses) neu i aros mewn petrusder y’nghanol drain.” Diben Duw yn ddiau yn y fath ymddygiad, yw dangos i ddyn ei wendid, fel y byddo iddo wybod trwy brofiad pa fodd i werthfawrogi y nerth a’r cyfarwyddyd a ddeuant oddi uchod. — Uwchlaw i mi — neu oddi arnaf, sef mewn sefyllfa a gallu, fel ag yr oedd ganddo gyfle a nerth i’w orthrymu. gynghorion yn fy enaid?
“A” gofid yn fy nghalon beunydd?
Pa hyd y dyrcha fy ngelyn uwchlaw i mi?
3Edrych#13:3 Edrych— gwel ac ystyria fy nghyflwr. , — ateb#13:3 ateb— trwy roddi ymwared. fi, Iehova fy Nuw;
Goleua#13:3 Goleua— pan iddynt weled yn eglur. Mae tristwch a mawr flinder yn peri i’r llygaid bylu. Yr oedd ei ofid wedi effeithio ar ei olygon. Gweddia am adfywiad. fy llygaid, rhag yr hunwyf yn angeu,
4Rhag dywedyd o’r gelyn#13:4 Arfera ddau beth er cefnogi ei arch: ei berygl ei hun — “rhag yr hunwyf yn angeu:” ac ymffrost ei elyn, ‘Gorfodais ef.’#13:4 ‘Gorfodais ef.’Os llithraf — neu, os y’m symudir, Salm 10:6. sef, os na allai sefyll yn ddiogel ac yn ddiysgog yn erbyn ei elynion.
Fy ngorthrymwyr a orfoleddant, os llithraf.
5Ond myfi, yn dy drugaredd y gobeithiaf:
Gorfoledda#13:5 Gorfoledda. — Hyderai yn nhrugaredd Duw er y cwbl, a diogel oedd ganddo y byddai iddo gael y fraint o orfoleddu am y waredigaeth a roddai Duw iddo. fy nghalon am dy waredigaeth.
Canaf#13:5 Canaf— addawai gân o foliant pan ddeuai ei ymwared. i Iehova, pan gyfnewidio#13:5 gyfnewidio, &c. — neu a wnelo gyfnewid arnaf,trwy roddi hawddfyd iddo yn lle adfyd. “Arwydda y gair,” medd y dysgedig Leigh, “roddi un peth yn lle y llall, megys hawddfyd yn lle adfyd.” Arferir ef am wobrwyo drwg am dda, Salm 7:5. a drwg am ddrwg, Salm 137:8. a da am dda, Salm 18:20. a chosp ddyledus i’r annuwiol am ei ddrygioni. Jer. 51:6. Pa fodd ei cyfieithiwyd synio arnaf, megys yn ein cyfieithiad cyffredin, nid yw yn amlwg. Ceir yr ymadrodd yn gyflawn fel yma, o leiaf, mewn dau o fanau ereill yn y Salmau, sef, Salm 116:7. a 142:7. a bod yn dda ei cyfieithir. Deal bountifully, yw y Saesneg yma, ac yn y ddau fan uchod. Nid cyfieithiad, ond eglurhad, yw hyn. Cyfnewid, rhoddi un peth yn lle y llall, neu atdalu, neu wobrwyo, yw ystyr y gair. arnaf.

Dewis Presennol:

Salmau 13: TEGID

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda