Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 53

53
ISAIAH, Pen. LIII.
1Pwy á gredodd ein hymadrawdd;
Ac i bwy y datguddiwyd braich Iehofah?
2Canys tyfodd megis y blaguryn yn ei wydd ef;
Ac megis y gwreiddyn o dir sychedig:
Heb bryd ac heb degwch iddo: a phan y gwelom ef,
Nid oes olygiad, màl y dymunem ef.
3Bu efe yn ddirmyg a diystyraf o wyr;
Gwr y gofidion ac hynod drwy flinder;
Ac megis yn cuddio ei wyneb rhagom:
Dirmyg oedd, ac ni wnaethom gyfrif o honaw.
4Diau ein gwendidau ni á gymerodd efe arno;
Ac ein gofidion ni, dygodd hwynt:
Etto cyfrifasom ni ef wedi ei archolli;
Gwedi ei daraw gan Dduw, ac ei gystuddiaw.
5Ond efe á wanwyd am ein troseddau ni;
Ac á friwwyd am ein camweddau ni:
Y gosb er ein heddwch ni fu arno ef;
A thrwy ei gleisiau ef y daeth iachâad i ni.
6Nyni oll fàl defaid á grwydrasom;
Troisom àr neilltu, pawb i’w ffordd ei hun;
Ac Iehofah á wnaeth i ddisgyn arno ef ein camweddau ni oll:
7Mynid tâl; ac yntau á ddaeth yn atebawl, ac nid agorodd ei enau;
Màl yr oen á arweinir i’r lladdfa,
Ac fàl dafad o flaen ei chneifiwr yn fud;
Efelly nid agorodd yntau ei enau.
8Trwy farn orthrymus y cymerwyd ef ymaith;
Ac am ei fuchedd, pwy á draethai?
Canys torwyd ef ymaith o dir y byw;
Am drosedd fy mhobl y bu y dyrnawd arno ef.
9Er y trefnid ei feddrawd gyda drygionusion,
Etto gyda chyfoethogion yr oedd yn ei farwolaeth,
Am na wnaethai gam,
Ac nad oedd twyll yn ei enau.
10Ond mynai Iehofah ei friwaw ef: parai ei ofidiaw [gan ddywedyd]
Os gosoda efe ei enaid yn bech-aberth,
Efe á wela had; estyna ddyddiau;
Ac ewyllys Iehofah á lwydda yn ei law.
11O lafur ei enaid y gwela efe ac y boddlonir:
Trwy ei wybodaeth y cyfiawnha fy ngwas cyfiawn laweroedd;
Canys eu camweddau hwynt efe a ddyga.
12Am hyny dosparthaf iddo laweroedd;
A chedeirn yn anrhaith á ddospartba efe;
Am iddo dywalltu ei enaid i farwolaeth;
Ac efe á gyfrifwyd gyda throseddwyr;
Ac á ddygodd bechodau llaweroedd;
Ac á eiriolodd dros y troseddwyr.

Dewis Presennol:

Eseia 53: TEGID

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda