Ioan 12
12
1Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth yr Iesu i Fethania, lle yr oedd Lasarus a gyfodasai Iesu o feirw. 2Am hynny gwnaethant swper iddo yno, ac yr oedd Martha yn gweini, ac yr oedd Lasarus yn un o’r rhai a oedd wrth y bwrdd gydag ef. 3A chymerth Mair bwys o ennaint nard pur costus, ac eneiniodd draed yr Iesu, a sychodd ei draed ef â’i gwallt. A llanwyd y tŷ ag aroglau’r ennaint, 4ac medd Iwdas o Gerioth, un o’i ddisgyblion, — ei fradychwr wedi hynny 5— “Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chan swllt a’i roddi i dlodion?” 6Dywedodd hyn, nid am ei fod yn malio am y tlodion, ond am mai lleidr oedd, a chanddo’r blwch ac yn dwyn yr hyn a fwrrid iddo. 7Medd yr Iesu felly: “Gad iddi hi gadw hyn ar gyfer dydd fy nghladdu. 8Y tlodion sydd gennych gyda chwi bob amser, ond myfi, nid wyf i gennych bob amser.” 9Felly gwybu tyrfa fawr o’r Iddewon ei fod yno, a daethant, nid o achos yr Iesu yn unig, ond i weled Lasarus hefyd, a gyfodasai ef o feirw. 10Cynlluniodd y prif offeiriaid i ladd Lasarus hefyd, 11am fod llawer o’r Iddewon yn ymadael o’i achos, ac yn credu yn yr Iesu.
12Trannoeth, wedi clywed bod yr Iesu yn dyfod i 13Gaersalem, cymerth y dyrfa fawr, a oedd wedi dyfod i’r ŵyl, gangau’r palmwydd, ac aethant allan i gyfarfod ag ef, a gweiddi:
“Hosanna,
Bendigedig yr hwn sy’n dyfod yn enw yr Arglwydd,
a brenin yr Israel.”
14A chafodd yr Iesu asyn bach, ac eisteddodd arno fel y mae’r adnod:
15 Nac ofna, ferch Seion;
Gwêl, y mae dy Frenin yn dyfod yn eistedd ar ebol asyn.
16Ni ddeallodd ei ddisgyblion ef hyn ar y cyntaf, ond pan ogoneddwyd Iesu, yna cofiasant fod hyn wedi ei ysgrifennu amdano, a’u bod wedi gwneuthur hyn iddo. 17Felly tystiai’r dyrfa a oedd gydag ef pan alwodd ef Lasarus o’r bedd a’i gyfodi o feirw. 18Am hyn hefyd y daeth y dyrfa i gyfarfod ag ef, am iddynt glywed ei fod wedi gwneuthur yr arwydd hwn. 19Felly meddai’r Phariseaid wrth ei gilydd: “Gwelwch nad ydych yn tycio dim; dyma’r byd wedi myned ymaith ar ei ôl.”
20Ac yr oedd rhai Groegiaid ymhlith y rhai a oedd yn myned i fyny i addoli yn yr ŵyl. 21Daeth y rhain at Phylip a oedd o Fethsaida yng Ngalilea, a gofynasant iddo gan ddywedyd: “Syr, yr ydym yn dymuno gweled yr Iesu.” 22Y mae Phylip yn dyfod ac yn dywedyd wrth Andreas; daw Andreas a Phylip a dywedyd wrth yr Iesu. 23Ac y mae’r Iesu yn eu hateb gan ddywedyd: “Y mae’r awr wedi dyfod i fab y dyn gael ei ogoneddu. 24Ar fy ngwir, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn ŷd i’r ddaear a marw, fe erys hwnnw’n unig. Ond os bydd marw, y mae’n dwyn ffrwyth lawer. 25Yr hwn sy’n caru ei enaid ei hun, fe’i cyll ef, a’r hwn sy’n cashau ei enaid yn y byd hwn, fe’i ceidw#12:25 Neu: sy’n ei garu ei hun, fe’i dinistria ei hun, a’r hwn sy’n ei gashau ei hun yn y byd hwn, fe’i ceidw ei hun. i fywyd tragwyddol. 26Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi, a lle yr wyf i, yno y bydd fy ngwasanaethwr hefyd. Os gwasanaetha neb fi, anrhydedda’r tad ef. 27Yn awr y mae f’enaid wedi ei gynhyrfu, a beth a ddywedaf? Dad, gwared fi o’r awr hon, ond er mwyn hyn y deuthum i’r awr hon. 28Dad, gogonedda dy enw.” A daeth gan hynny lais o’r nef: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, a gogoneddaf eto.” 29Felly dywedodd y dyrfa, a oedd yn sefyll ac yn clywed, ei bod wedi taranu. Meddai eraill: “Angel a siaradodd wrtho.” 30Atebodd Iesu a dywedodd: “Nid o’m hachos i y daeth y llais hwn, ond o’ch achos chwi. 31Yn awr y mae barn y byd hwn; yn awr y bwrrir allan bennaeth y byd hwn. 32A minnau, os dyrchefir fi o’r ddaear, a dynnaf bawb ataf fy hun.” 33Hyn a ddywedodd i arwyddo drwy ba angeu y byddai farw. 34Felly atebodd y dyrfa iddo: “Clywsom ni o’r gyfraith fod yr Eneiniog yn aros yn dragywydd, a sut yr wyt ti yn dywedyd bod yn rhaid i fab y dyn gael ei ddyrchafu? Pwy ydyw’r ‘mab y dyn’ hwn?” 35Meddai’r Iesu wrthynt felly: “Ychydig amser eto y mae’r goleuni gyda chwi. Rhodiwch tra fo’r goleuni gennych, rhag i’r tywyllwch eich gorddiwes: ac ni ŵyr yr hwn sy’n rhodio yn y tywyllwch i ba le y mae’n myned. 36Tra fo’r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, er mwyn i chwi ddyfod yn feibion goleuni.” Hyn a ddywedodd Iesu, ac wedi myned ymaith, diflannodd o’u canol. 37Ond er iddo wneuthur cymaint o arwyddion ger eu bron, ni chredent ynddo, 38fel y cyflawnid gair y proffwyd Eseia, a ddywedodd: Arglwydd, pwy a gredodd i’r hyn a glybuwyd gennym? a braich yr Arglwydd, i bwy y datguddiwyd hi? 39Am hyn, ni allent gredu, gan fod Eseia wedi dywedyd wedyn: 40Y mae wedi dallu eu llygaid, a chaledu eu calon, fel na welont â’u llygaid a deall â’u calon a dychwelyd, a minnau a’u hiachaf hwynt#12:40 Yn ôl Hebraeg Es vi. 10, “fel yr iachaer hwynt.”. 41Hyn a ddywedodd Eseia am iddo weled ei ogoniant ef, a soniodd amdano. 42Ac yn wir, ar waethaf popeth, credodd llawer hyd yn oed o’r penaethiaid ynddo, ond oherwydd y Phariseaid, ni chyfaddefent rhag eu torri allan o’r synagog, 43canys yr oeddynt yn caru clod gan ddynion yn fwy na chlod gan Dduw. 44A gwaeddodd yr Iesu a dywedodd: “Y neb sy’n credu ynof i, nid ynof i y mae’n credu ond yn yr hwn a’m hanfonodd i; 45a’r neb sy’n fy ngweled i, sy’n gweled yr hwn a’m hanfonodd i. 46Yn oleuni yr wyf i wedi dyfod i’r byd, fel nad arhoso neb sy’n credu ynof i yn y tywyllwch. 47Ac os clyw neb fy ngeiriau i ac nis ceidw hwynt, nid wyf i’n ei farnu, canys ni ddeuthum i farnu’r byd ond i achub y byd. 48Yr hwn sy’n fy nibrisio i a heb dderbyn fy ngeiriau i, y mae ganddo un sydd yn ei farnu. Y gair a ddywedais, hwnnw a’i barn yn y dydd diwethaf; 49am nad ohonof fy hun y lleferais, ond yr hwn a’m hanfonodd i, y tad, hwnnw a roes siars arnaf beth a ddywedwyf a beth a lefarwyf. 50A gwn fod ei siars ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn felly a lefaraf yn awr, fel y dywedodd y tad wrthyf, felly y llefaraf.”
Dewis Presennol:
Ioan 12: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945